Llangernyw
Pentref bychan a chymuned yn Sir Conwy yw Llangernyw. Roedd yn rhan o'r hen Sir Ddinbych a Chlwyd cyn hynny. Mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn y rhan hon o'r sir.
Mae'r pentref yn gorwedd ar bwys Afon Gallen (sy'n troi'n Afon Elwy yn is i lawr ei chwrs) ar lôn yr A548, tua 6 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrwst ac 8 milltir i'r de-orllewin o Abergele ar y lôn honno. Mae'n gorwedd mewn dyffryn deniadol yng nghanol bryniau isel wrth droed bryn Tre-pys-llygod.
Cynnwys |
Hynafiaethau [golygu]
Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Sant Digain, yn hen ond wedi'i hatgyweirio'n sylweddol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o'r 15fed ganrif. Ym mynwent yr eglwys ceir dau bâr o feini hirion cynhanesyddol; rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar cerfiwyd croesau arnyn nhw (maen nhw'n debyg i groesau eraill sy'n perthyn i'r seithfed neu'r wythfed ganrif). Ar ben hynny cawsant eu gosod fel beddfeini i ddau fedd o'r 17eg ganrif. Ceir coeden ywen yn y fynwent sy'n hen iawn. Saif Hen domen Castell Isaf tua kilometr i'r gogledd o'r pentref, sef tomen amddiffynol o'r Oesoedd Canol.
Hanner milltir i'r gorllewin, ar bwys yr hen lôn i Eglwysbach, ceir plasdy Hafodunos. Bu plasdy ar y safle yn y 16eg ganrif ond mae'r plasdy Gothig presennol yn dyddio o'r 1860au. Syr George Gilbert Scott oedd y pensaer. Cafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan dân yn 2004.
Addysg [golygu]
Ceir ysgol gynradd Gymraeg yn y pentref, sef Ysgol Gynradd Bro Cernyw, a agorwyd yn 1969.[1]
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Ysgol Bro Cernyw ar wefan Bro Cernyw]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan