Rowen
Pentref yn Sir Conwy yw Rowen neu Ro-wen, weithiau Y Ro. Daw'r enw o 'gro wen'. Saif ychydig oddi ar y ffordd B5106, rhwng Dolgarrog a Chonwy, ar ochr orllewinol Dyffryn Conwy.
Mae Afon Ro yn llifo trwy'r pentref cyn ymuno ag Afon Conwy. Mae gan y pentref siop a thafarn, ac mae hostel ieuenctid ychydig i'r gorllewin o'r pentref. Roedd y pentref yn bwysicach yn y gorffennol, gyfa thair melin a phandy yma.
O ddilyn y ffordd heibio'r hostel ieuenctid, mae'n troi'n ffordd drol sy'n dilyn llinell y ffordd Rhufeinig o Canovium (Caerhun) i Segontium (Caernarfon). Gellir dilyn y ffordd yma i fyny i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen, gan basio nifer o henebion diddorol, megis siambr gladdu Maen y Bardd o'r cyfnod Neolithig. Ceir hen eglwys Llangelynnin gerllaw hefyd.
Pobl o Rowen [golygu]
- Huw T. Edwards, arweinydd undeb llafur a gwleidydd
- Wyn Roberts, gwleidydd Ceidwadol a chyn Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Gymreig
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan