Betws-y-Coed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°05′31″N 3°47′31″W / 53.092°N 3.792°W / 53.092; -03.792

Betws-y-Coed
Afon Llugwy from Pont-y-pair.jpg
Afon Llugwy
Betws-y-Coed is located in Conwy
Betws-y-Coed

 Betws-y-Coed yn: Conwy
Poblogaeth 534 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SH795565
Cymuned Betws-y-Coed
Prif ardal Conwy
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost BETWS-Y-COED
Rhanbarth cod post LL24 0
Cod deialu 01690
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Aberconwy
Cynulliad Cymru Aberconwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Conwy

Tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw Betws-y-Coed. Gerllaw, mae'r Bont Waterloo haearn yn cario'r A5 dros Afon Conwy. Mae Afon Llugwy, sy'n rhedeg trwy'r pentref, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw. Mae Caerdydd 184.1 km i ffwrdd o Betws-y-Coed ac mae Llundain yn 306.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 26.6 km i ffwrdd.

Cynnwys

Yr enw [golygu]

Un o'r hen enwau ar y pentref oedd Betws Wyrion Iddon. Fe'i gelwid hefyd Llanfihangel y Betws yn ôl y Parochiale Wallicanum ("Plwyfi Cymru") a gyhoeddwyd yn 1721. Ystyr betws yw "capel anwes, tŷ gweddi neu eglwys fach", ac mae'n air Cymraeg Canol sy'n fenthyciad o'r gair Hen Saesneg bede-hūs (bead-house). Ystyr yr enw Betws-y-Coed felly yw "Y Tŷ Gweddi yn y Coed", er bod bead-house yn gallu golygu "elusendy" hefyd yn Saesneg.

Daearyddiaeth [golygu]

Mae'r pentref presennol yn wasgaredig ar ddwy lan Afon Llugwy lle egyr y dyffryn allan wrth ymuno â dolydd isel gwastad Dyffryn Conwy. Mae'r ardal yn goediog iawn ond erbyn heddiw mae'r hen goedwigoedd cysefin wedi ildio lle i goedwigoedd pinwydd trwchus y Comisiwn Coedwigaeth sy'n gorchuddio'r bryniau i'r gogledd ac i'r de o Fetws-y-Coed. Tu draw i Goedwig Gartheryr, i'r de, mae Llyn Elsi yn gorwedd.

Hanes [golygu]

Hyd at y 16eg ganrif roedd Betws yn rhan o blwyf Llanrhychwyn a honno yn ei thro yn rhan o gwmwd Nant Conwy yn nghantref Arllechwedd. Ymddengys fod eglwys wedi sefyll ym Metws ers Oes y Seintiau. Mae cwrs ffordd Rufeinig, a elwir Sarn Helen fel cynifer o'i thebyg, yn pasio'n agos i'r pentref ar ei ffordd o gaer Caerhun (Canovium) i Ddyfryn Lledr ac mae cangen ohoni'n rhedeg i fyny dyffryn Afon Llugwy i Gapel Curig. Roedd Rhys Gethin, un o gapteiniad pennaf Owain Glyndŵr, yn byw yn 'Hendre Rhys Gethin' ym mhlwyf Betws-y-Coed. Roedd ei frawd Hywel Coetmor, oedd hefyd yn wrthryfelwr a noddwr beirdd, yn byw yng Nghastell Cefel yng Nghoedmor gerllaw, yn ôl Syr John Wynn o Wydir. Ceir beddfaen eu taid Gruffudd ap Dafydd Goch ym mynwent yr eglwys (gweler isod).

Rhywbryd yn y 15fed ganrif codwyd Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (gweler isod). Tyfodd y pentref yn gyflym yn ail hanner y 19eg ganrif. Daeth yn fangre boblogaidd iawn gan arlunwyr o dros Glawdd Offa ac am gyfnod roeddynt yn ffurfio cylch artistaidd tebyg i'r un a gafwyd yn St Ives yng Nghernyw. Mae nifer o dai yn y pentref yn dyddio o'r cyfnod hwnnw a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif.

Yr hen eglwys [golygu]

Eglwys Fihangel Sant

Mae Eglwys Fihangel Sant, neu Llanfihangel, yn hen iawn. Mae'n sefyll rhwng yr orsaf rheiffordd ac Afon Conwy ar ochr ddwyreiniol y pentref. Mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14eg ganrif neu'n gynnar yn y 15fed ganrif. Dichon ei bod wedi'i chysegru i sant lleol ar un adeg cyn cael ei ail-gysegru i Sant Fihangel, efallai yn yng nghyfnod y Normaniaid. Mae bedyddfaen yr eglwys yn perthyn i'r 12fed ganrif, yn ôl pob tebyg.

Y tu ôl i'r allor ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd fab Dafydd Goch, un o wyrion Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif,

HIC JACET GRVFYD AP DAVYD GOCH : AGNVS DEI MISERE ME
(Yma y gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch: Boed i Oen Duw fod yn drugarhaol wrthyf)

Mae tair ywen hynafol yn tyfu ym mynwent yr eglwys. Mae'r hen borth i'r eglwys yn ddiddorol hefyd, ac yn dyddio o 1750. Yn nyfroedd Afon Conwy ger yr eglwys gellir gweld hen gerrig camu a ddefnyddid ar un adeg i groesi'r afon. Yn ymyl yr eglwys yn ogystal mae hen bont grog haearn a phren ar gyfer cerddwyr.

Pont-y-Pair [golygu]

Rhywbryd yn y 15fed ganrif, efallai, codwyd pont gerrig hardd Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (fe'i priodolir i Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny). Mae ganddi bump bwa â'r un yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae Pont-y-Pair yn denu nifer o bobl yn yr haf ac mae rhai pobl yn neidio i'r afon o'r bont neu o'r creigiau yn ei hymyl.

Y pentref heddiw [golygu]

Ers canrif a mwy mae Betws wedi bod yn boblogaidd gan ymwelwyr ac yn ganolfan hwylus ar gyfer ymweld ag Eryri. Mae nifer o westai yn y pentref a cheir sawl siop offer dringo a cherdded yn y stryd fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r tai wedi'u hadeiladu â cherrig lleol. Mae gan y pentref boblogaeth o 1,187 (Cyfrifiad 2001).

Ceir amgueddfa a chanolfan ymwelwyr yn yr hen orsaf.

Delweddau [golygu]

Atyniadau eraill [golygu]

Hanner ffordd rhwng Betws a Chapel Curig mae'r Tŷ Hyll. Cyn cyraedd y tŷ, rhyw 2 filltir o'r pentref, mae'r Rhaeadr Ewynnol ("Swallow Falls" yn Saesneg).

Llyfryddiaeth [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: