Afon Llugwy

Oddi ar Wicipedia
Afon Llugwy
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr97 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0833°N 3.8°W Edit this on Wikidata
AberAfon Conwy Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Afon Llugwy (Powys).

Mae Afon Llugwy yn afon yn Sir Conwy, gogledd Cymru, sy'n un o lednentydd Afon Conwy. Mae gwreiddyn y gair Lugwy, sef lleu, yn golygu "goleuni".[1]

Cwrs[golygu | golygu cod]

Mae Afon Llugwy yn tarddu yn llyn Ffynnon Llugwy, uwch Nant y Benglog ac islaw Craig yr Ysfa yn y Carneddau, llyn sy'n cael ei fwydo gan nifer o nentydd ar lethrau'r Carneddau. Wedi gadael y llyn mae'r afon yn llifo tua'r de nes croesi ffordd yr A5 ger Pont Rhyd-goch ac yna'n troi tua'r de-ddwyrain i redeg yn ymyl yr A5 i bentref Capel Curig, lle mae Nant Gwryd yn ymuno a'r afon. Ar ôl Capel Curig mae'r afon yn parhau i ddilyn yr A5 heibio Pont Cyfyng (neu Pont Cyffin), lle mae'n llifo'n gyflym tros wely creigiog ac yn pasio safle caer Rufeinig fechan Bryn-y-Gefeiliau, ac yna yn disgyn dros y Rhaeadr Ewynnol (Swallow Falls yn Saesneg). Mae'n llifo dan Bont-y-Pair ym mhentref Betws-y-Coed ac yn ymuno ag Afon Conwy wrth Bont Waterloo gerllaw.

Gwlybder[golygu | golygu cod]

Mae dalgylch Afon Llugwy ar gyfartaledd yr ardal mwyaf glawog yng Nghymru ac ym Mhrydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban.

Afon Llugwy ger Capel Curig
Afon Llugwy uwchlaw Betws-y-Coed

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]