Capel Curig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Curig a'i Fam, Capel Curig
Llyn Mymbyr o Gapel Curig

Pentref bychan a chymuned yng nghanol Eryri yw Capel Curig. Mae'n rhan o fwrdeistref sirol Conwy. Fe'i lleolir ar groesffordd lle mae'r A4086 o/i gyfeiriad Nant Gwynant a Beddgelert yn ymuno â'r A5.

Enwir y pentref ar ôl y clas a sefydlwyd gan y sant Curig (fl. 550?) yno. Yn anffodus cafodd yr eglwys bresennol, sy'n sefyll mewn llan ger y pentref, ei hatgyweirio'n sylweddol yn y 19eg ganrif. Eglwys fechan yw hi, 32 wrth 15 troedfedd gyda thransept sgwar diweddarach. Yn Oes y Tywysogion roedd yn perthyn i Briordy Beddgelert. Ceir llecyn o'r enw 'Gelli'r mynach' ar yr hen lôn i gyfeiriad Llyn Ogwen a Nant Ffrancon. Tu ôl i'r eglwys saif bryn isel Cefn y Capel. Cysegrir yr eglwys bresennol i Sant Cyriacus a'i fam Julitta.

Ar y ffordd i Fetws-y-Coed, 1 km ar ôl Pont Cyfyng i'r de-ddwyrain, ceir caer Rufeinig ar fferm Bryn-y-Gefeiliau, a sefydlwyd tua OC 90-100; fe'i henwyd Caer Llugwy gan yr archaeolegwyr a fu'n cloddio yno.

Mae'r pentref yn ymestyn o gwmpas y groesffordd ac ar hyd y lôn i gyfeiriad Betws-y-Coed i'r dwyrain. Mae'n dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth ac mae siopau gweithgareddau awyr agored a gwestai yn amlwg yno.

Ceir golygfeydd bendigedig ac enwog o Lynnau Mymbyr a phedol Yr Wyddfa o Gapel. Trawiadol hefyd yw llethrau agored Moel Siabod i'r de-ddwyrain a mynyddoedd y Carneddau a rhan o'r Glyderau i'r gogledd. Yng Nghapel Curig y ganwyd Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru o 1991 hyd 1999.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Capel Curig (pob oed) (206)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Capel Curig) (113)
  
57.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Capel Curig) (128)
  
62.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Capel Curig) (20)
  
22.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  • Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, 1984)