Y Carneddau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Carneddau o ardal Pentir. Yr Elen yn y canol gyda Carnedd Llywelyn tu ôl, Carnedd Dafydd ar y dde.
Copaon y Carneddau. Carnedd Dafydd tu blaen, a Charnedd Llywelyn tu cefn
Crib y Carneddau.

Mynyddoedd yn Eryri, Cymru yw'r Carneddau. Maent yn cynnwys y darn mwyaf o dir uchel yng Nghymru (dros 2,500 o droedfeddi neu dros 3,000 o droedfeddi), a saith o'r 14 copa uchaf yng Nghymru. Maent hefyd yn cynnwys nifer o lynoedd, megis Llyn Cowlyd a Llyn Eigiau. Ffiniau'r Carneddau yw yr arfordir yn y gogledd, Dyffryn Conwy i'r dwyrain a ffordd yr A5 o Betws-y-Coed i Fethesda i'r de a'r gorllewin. Yn yr Oesoedd Canol roedd prif grib y Carneddau yn y gogledd yn rhannu cantref Arllechwedd yn ddau gwmwd, Arllechwedd Uchaf ac Arllechwedd Isaf.

Daearyddiaeth[golygu]

Copaon[golygu]

Mae'r Carneddau yn cynnwys y mynyddoedd isod:

Mae'r brif grib yn ymestyn o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin. Yn y pen gogledd-ddwyreiniol. mae Tal y Fan, sy'n cael ei wahanu gan Fwlch y Ddeufaen oddi wrth Drum. Ymhellach i'r de-orllewin, mae Foel Fras, Foel Grach, Carnedd Llywelyn, Carnedd Dafydd ac yna, ym mhen draw'r grib, Pen yr Ole Wen uwchben Llyn Ogwen.

Llynnoedd ac afonydd[golygu]

Llyn Eigiau o gopa Clogwynyreryr

Ceir cryn nifer o lynnoedd mawr a bach yn y cymoedd rhwng copaon y Carneddau. Cronfeydd dŵr yw nifer o'r rhai mwyaf, megis Llyn Cowlyd, Llyn Eigiau, Llyn Dulyn a Ffynnon Llugwy. Ymhlith y llynnoedd naturiol mae Llyn Geirionnydd, Llyn Crafnant a Llyn Ogwen.

Mae'r afonydd ar ochr ddwyreiniol y Carneddau yn llifo i lawr i ymuno ag Afon Conwy. Yn eu plith mae afon Crafnant, afon Ddu, afon Porth-llwyd ac afon Dulyn. Yn y de, mae afon Llugwy yn tarddu o gronfa Ffynnon Llugwy, tra mae nifer o afonydd ar yr ochr orllewinol yn ymuno ag afon Ogwen, megis afon Ffrydlas, afon Lloer, afon Llafar ac afon Caseg. Ar yr ochr ogleddol, mae'r Afon Goch yn plymio 120 troedfedd dros glogwyn o garreg igneaidd i greu'r Rhaeadr Fawr, cyn ymuno ag afon Anafon i greu afon Abergwyngregyn sy'n llifo i'r môr dros Draeth Lafan.

Archaeoleg a hanes[golygu]

Maen y Bardd

Yn ystod y cyfnod Neolithig, ymddengys mai o gwmpas godreuon y Carneddau yr oedd presenoldeb dynol. Ymysg yr olion o'r cyfnod hwn mae siambr gladdu Maen y Bardd ar ochr ddwyreiniol y Carneddau, ac olion tŷ yn Llandegai ger Bangor. Yn ystod rhan gyntaf Oes yr Efydd roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach, gan wneud y tir uchel yn fwy atyniadol. Ceir llawer o weddillion tai a chladdfeydd o'r cyfnod hwn, er enghraifft yng Ngwm Anafon uwchben Abergwyngregyn ac yng Nghwm Ffrydlas uwchben Bethesda. Yn y cyfnod yma y codwyd y meini hirion megis y rhai ym Mwlch y Ddeufaen, ac y codwyd llawer o'r carneddi a welir ar y mynyddoedd a bryniau, er enghraifft ar Drosgl.

Nid oes cymaint o olion o Oes yr Haearn ar y tir uchel; nid oedd y tywydd mor ffafriol erbyn hyn ac roedd mawnog yn dechrau ffurfio. Gall fod rhai o'r olion tai ar lechweddau Moel Faban ger Bethesda ac ym Mhant y Griafolen islaw Llyn Dulyn yn dyddio o'r cyfnod yma. Ceir cryn nifer o fryngeiri ar y bryniau isaf, er enghraifft Braich-y-Dinas ger Penmaenmawr a Pen y Gaer gerllaw Llanbedr-y-cennin. Adeiladodd y Rhufeiniaid gaer Canovium (Caerhun) i warchod y groesfan dros afon Conwy, ac roedd ffordd Rufeinig yn arwain oddi yma dros Fwlch y Ddeufaen i Segontium.

Darllen Pellach[golygu]

  • Ioan Bowen Rees, Bylchau (Caerdydd, 1995). Pennod 1: 'Llawlyfr Carnedd Llywelyn'.
  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybïe, 1965)

Gweler hefyd[golygu]

Y Carneddau o gopa Moel Siabod. O'r chwith i'r dde: Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, Pen yr Helgi Du (gyda Foel Grach a Foel Fras tu ôl), Pen Llithrig y Wrach a Creigiau Gleision.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: