A5

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r A5 yn un o brif ffyrdd Prydain, yn wreiddiol y ffordd o Lundain i Gaergybi. Yn ngogledd Cymru, mae'n cael ei gydnabod bellach fel llwybr hanesyddol trwy fynyddoedd Eryri.

Llundain i Amwythig - y Ffordd Rufeinig[golygu]

Mae llwybr yr A5 ar draws Lloegr yn dilyn yn agos iawn i lwybr Stryd Watling, ffordd Rufeinig o Dubris (Dover) i Londinium (Llundain), wedyn ymlaen i Viroconium (Caerurnas, neu Wroxeter).

Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid, parhaodd y ffordd, fel y rhan helaeth o'r rhwydwaith Rufeinig. Roedd nifer o borthmyn o Gymru yn defnyddio'r ffordd i yrru gwartheg i Lundain. Erbyn 1780 buasai'r rhan fwyaf ohono wedi dod dan reolaeth Tyrpeg, sef ymddiriedolaethau preifat oedd yn codi toll ar deithwyr er mwyn cynnal y ffyrdd, y ffordd erbyn hyn yn cyrraedd Amwythig. Pan gomisiynwyd Thomas Telford i wella'r ffordd o Lundain i Gaergybi (gweler isod), 'roedd llai o alw am waith sylweddol yn Lloegr.

Amwythig i Gaergybi - Ffordd Thomas Telford[golygu]

Arwydd yn cofnodi llwybr hanesyddol y ffordd

'Roedd gwaith Telford yn llawer mwy sylweddol o Amwythig i Gaergybi.

'Roedd uno Prydain Fawr gydag Iwerddon wedi creu galw am gryfhau'r cysylltiad ymarferol rhwng Llundain a Dulyn. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd Thomas Telford i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o Lundain i Gaergybi. Wedi pasio deddf seneddol arbennig yn y flwyddyn honno, cychwynwyd ar y gwaith ym 1815, a pharhaodd nes cwblhau Pont y Borth yn 1826. Hwn oedd y tro cyntaf i arian cyhoeddus gyllido adeiladu ffyrdd ym Mhrydain ers oes y Rhufeiniaid.

Un o nodweddion y ffordd oedd nad unrhyw oleddf i fod gyda graddiant o fwy na 5%, hyd yn yn oed yn Eryri. Er mwyn caniatáu hyn, 'roedd rhaid adeiladu pontydd, cloddiau a waliau cynnal sylweddol ar hyd y llwybr.

Adeiladwyd hefyd rhai strwythurau sylweddol iawn - yn cynnwys Pont Waterloo ar draws Afon Conwy ym Metws-y-Coed, Morglawdd Stanley ar draws Y Lasinwen, ac yn fwyaf oll, Pont y Borth ar draws Afon Menai.

Mae nifer o nodweddion pensaernïol a pheirianyddol ar hyd y daith - cerrig milltir nodweddiadol am bob milltir o'r siwrnai, tollbyrth, giatau gyda chynllun 'codiad haul' arbennig. Adeiladwyd hefyd depots wedi eu lleoli yn rheolaidd ar hyd y ffordd, sef cilfachau wrth ymyl y ffordd er mwyn cadw graean a nwyddau cyffelyb i gynnal yr wyneb.

Mae cyfran sylweddol o'r nodweddion hanesyddol wedi goroesi ar hyd y daith o Amwythig i Gaergybi, gyda rhannau helaeth yn edrych yn debyg o hyd i'r ffordd wreiddiol. Erbyn heddiw mae'r ffordd wedi ei chydnabod fel heneb sydd yn haeddu cadwraeth.

Mae gwaith Telford hefyd wedi ei brofi i'r eithaf. Ym 1997, adeiladwyd "gwelliant" modern ar gost sylweddol yn Nhŷ Nant, er mwyn osgoi troellau ar ffordd Telford. Erbyn 2005, roedd llithriadau creigiau yn peryglu'r llwybr newydd hwnnw, a bu'n rhaid ei gau dros dro. Er mawr embaras i'r awdurdodau, gorfu iddynt brynu yn ôl ac ail-agor rhan o'r hen ffordd, oedd wedi dangos ei gwerth bron 200 mlynedd ar ôl ei hadeiladu.

Llwybr yr A5 heddiw[golygu]

Y Marble Arch yn Llundain, cychwyn y ffordd A5

O'r Bwa Farmor yn Llundain, aiff yr A5 ar hyd Ffordd Edgware allan o Lundain. Yma mae'r 'A5' yn diflannu ond pery'r ffordd fel yr A5183 trwy St Albans nes iddi gyrraedd cyffordd 9 yr M1, lle daw yn A5 unwaith eto. Mae'r ffordd yn parhau trwy Dunstable i Milton Keynes, lle mae'r A5 presennol yn ffordd osgoi ddeuol ar gyrion y dref, ond y ffordd wreiddiol yn dal i'w gweld ar ei ffurf syth Rufeinig.

Ar ôl pasio drwy Fwlch Watford, mae'n gwyro ychydig i'r gorllewin at Atherstone (ffordd osgoi arall, ond yr arwydd wreiddiol i Gaergybi i'w weld o hyd yng nghanol y pentref), Tamworth (ffordd osgoi bresennol), Cannock a Telford. Yno, tref newydd a enwir ar ôl y peiriannydd, mae'r enw 'A5' yn diflannu am gyfnod eto, wrth i draffig drwodd ymuno a'r M54, ond unwaith eto mae'r ffordd syth wreiddiol i'w gweld.

Yn Amwythig, roedd y ffordd wreiddiol yn mynd i fewn i'r ddinas dros y Bont Seisnig, ac yn dod allan dros y Bont Gymreig. Mae'r A5 presennol yn wyriad mwy sylweddol fel rhan o ffordd osgoi ddeuol o gwmpas de'r ddinas. Mae ambell i wyriad modern hefyd ar y rhannau o'r ffordd hyd at arfordir Cymru, yn cynnwys pontydd sylweddol o gwmpas Y Waun, unwaith eto gyda'r ffordd wreiddiol yn mynd trwy'r pentref.

Yng Nghymru, mae'r A5 presennol yn dilyn yn ffyddlon iawn at lwybr Telford, trwy Langollen, Corwen, Cerrigydrudion (gwyriad bychan), a Phentrefoelas. Aiff ar draws Pont Waterloo i mewn i Fetws-y-Coed, ymlaen at Gapel Curig wrth godi at uchafion Eryri, heibio Mynydd Tryfan, Llyn Ogwen a thrwy Nant Ffrancon at Fethesda. Mae ffordd osgoi o gwmpas Bangor, ac wrth wyro tuag at y cylchdro mae'r A5 presennol yn gadael llwybr Telford, rhan ohoni yn cynnwys tollborth a phont bwyso Lôn Isaf. Ond gan mai'r A55 yw'r fordd osgoi bellach, mae'r A5 yn ailymuno â'r llwybr gwreiddiol trwy Fangor.

Bwa'r Admiralty yng Nghaergybi, diwedd y ffordd A5

Mae'n codi allan o Fangor, yn croesi'r Fenai ar Bont y Borth, ac yn mynd am Borthaethwy. 'Roedd ffordd Telford ar draws Ynys Môn yn gwbl newydd, ac wrth fynd trwy bentrefi Llanfairpwllgwyngyll, Gaerwen, Mona, Gwalchmai, Bryngwran a Chaergeiliog, mae'r teithiwr yn gweld mai pentrefi a dyfodd ar hyd y ffordd, nid wedi eu cysylltu ganddi, ydynt.

Wedi croesi Morglawdd Stanley, mae gwyriad modern o gwmpas gweithfeydd Alwminiwm Môn cyn cyrraedd tref Caergybi.

Yn eirionig, i yrrwyr car yn teithio o Lundain i Gaergybi heddiw, mae adeiladu traffyrdd Lloegr a deuoli'r A55 ar draws arfodir gogledd Cymru yn golygu nad yw'r teithiwr yn dilyn yr A5 prin o gwbl os am siwrnai ymarferol.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Quartermaine et al (2003) Thomas Telford's Holyhead Road: The A5 in North Wales, Council for British Archaeology ISBN 1-902771-34-6