Pont-y-Pair

Oddi ar Wicipedia
Pont-y-Pair
Mathpont ffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBetws-y-coed Edit this on Wikidata
SirBetws-y-coed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr16.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0939°N 3.80598°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN032 Edit this on Wikidata

Pont hynafol ar Afon Llugwy yn Eryri yw Pont-y-Pair. Mae'n sefyll yng nghanol pentref Betws-y-Coed yn Sir Conwy. Mae'r enw yn cyfeirio at y "pair" o ddŵr oddi tanodd lle mae'r Afon Llugwy yn ymgasglu ar ôl disgyn rhwng y creigiau. Mae'n cludo'r ffordd B5106 (Conwy - Betws-y-Coed) dros yr afon i gyffordd ar yr A5.

Rhywbryd yn y 15g, efallai, codwyd pont gerrig dros Afon Llugwy yn y man lle ceir pentref Betws-y-Coed (dim ond yr eglwys ac ychydig o dai oedd yno yn y 15g). Fe'i priodolir gan rai i'r pensaer Cymreig Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny.[1]

Mae gan y bont gerrig hon bump bwa, gyda'r un sydd yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Mae Pont-y-Pair yn denu nifer o bobl yn yr haf ac mae rhai pobl yn neidio i'r afon o'r bont neu o'r creigiau yn ei hymyl.

Pont-y-Pair tua 1800, gan Paul Sandby

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. North Wales (cyfres 'The Travellers' Guides', dim dyddiad).
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.