Bryn-y-Gefeiliau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Safle caer Rufeinig Bryn-y-Gefeiliau.

Safle caer Rufeinig yng ngogledd Cymru, dwy filltir i'r dwyrain o Gapel Curig yn Eryri yw Bryn-y-Gefeiliau; cyfeiriad grid SH746572. Enwir y safle ar ôl ffermdy Bryn-y-Gefeiliau gerllaw (enw arall arni yw Caer Llugwy, enw a fathwyd gan y cloddwyr archaeolegol yn y 1920au).

Mae olion y gaer yn gorwedd ar safle isel ar lan ddeheuol Afon Llugwy, ger Pont Cyfyng a thua 1 filltir i'r gorllewin o'r Rhaeadr Ewynnol. Mae'n sefyll ar wely o dir nad yw ond troedfedd yn uwch na lefel gorlifiad yr afon. Byddai'r ardal hon yn un wyllt ag anghysbell yng nghyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru, mewn cwm cul yng nghanol coedwigoedd Eryri.

Rhedai ffordd Rufeinig o Gaerhun yn Nyffryn Conwy i fyny i Fryn-y-Gefeiliau. Mae union leoliad y ffordd ar ôl hynny yn ansicr ond mae presenoldeb caer ymarfer dros dro ym Mhen-y-Gwryd i'r de-orllewin yn awgrymu cysylltiad i gaer Segontium dros Ben-y-Pas a thrwy Nant Peris.

Mae Bryn-y-Gefeiliau yn un o gaerau Rhufeinig llai Cymru. 3.9 acer yn unig a amgeir ynddi (tua'r un maint â Chastell Collen yn ne Powys). Ceir muriau o gerrig a chlai o gwmpas y gaer. Y tu mewn iddi ceid o leiaf dwy ffordd fewnol (intervallum) a sawl adeilad o gerrig. Ceir awgrym fod un ohonyn nhw'n faddondy.

Ar ochr orllewinol y gaer ceir adeiladau atodol, tua'r un maint â'r gaer ei hun, wedi'u hamgae â mur cerrig. Mae'n cynnwys olion sawl adeilad o waith carreg. Mae'n bosibl fod yr adeiladau hyn yn gysylltiedig â hen weithle haearn — fel y mae'r enw Bryn-y-Gefeiliau yn awgrymu. Mae'n bosibl hefyd fod y Rhufeiniaid yn cloddio am blwm yn yr ardal.

Mae dyddio'r gaer yn broblematig. Dim ond un darn o arian bath a gafwyd ar y safle, a hynny'n rhy dreuliedig i ddangos enw'r ymerodr. Dibynnir ar dystiolaeth y darnau crochenwaith ar y safle i'w ddyddio. Mae'r rhain yn cynnwys darnau o lestri o waith Samaidd o gyfnod yr ymerodr Titus Flavius ac eraill o'r Almaen a chanolbarth Gâl sydd i'w dyddio i gyfnod Antoninus Pius. Ar sail y dystiolaeth hon awgrymir fod y gaer wedi cael ei sefydlu tua'r flwyddyn 90 a bod y Rhufeiniaid wedi rhoi'r gorau iddi rywbryd ar ôl tua 150.

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: CN010.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

Ffynhonnell[golygu]

  • Grace Simpson, 'Caerleon and the Roman forts in Wales in the second century AD. Part 1: Caerleon and Northern Wales', Archaeologia Cambrensis CXI (1962).


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis