Rhaeadr Ewynnol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Rhaeadr Ewynnol

Rhaeadr ar Afon Llugwy yw'r Rhaeadr Ewynnol, a leolir tua dwy filltir i'r gorllewin o Fetws-y-Coed, ger y briffordd A5 rhwng Betws a Chapel Curig yn Sir Conwy, gogledd Cymru. Mae'n un o atyniadau twristaidd pennaf yr ardal. Fe'i hadnabyddir yn Saesneg wrth yr enw "Swallow Falls".

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofnodir yr enw fel "Rhaeadr y Wennol" (neu sillafad tebyg) gan sawl awdur o'r 18fed ganrif ymlaen. Dyna a geir gan Thomas Pennant yn ei gyfrol Tours in Wales (1778-1781).[1] Yn ei gyfrol A Description of Caernarvonshire (llawysgrif 1809-1811) cofnoda'r hynafiaethydd Edmund Hyde Hall yr enw dan y ffurf "Rhaiadr y Waenol" gan ychwanegu'r cyfieithiad "the Swallow's Fall", ond arosodd ei waith mewn llawysgrif yn unig tan 1952.[2] Yn 1821 yn y gyfrol The Tourist's Guide through the County of Caernarvon, cyfeiria'r hynafiaethydd Peter Bailey Williams ati fel "Rhaeadr y wennol" heb ddefnyddio cyfieithiad Saesneg o'r enw.[3]

Mae'r Athro Hywel Wyn Owen yn cynnig esboniad o darddiad yr enw yn eitemau'r rhaglen "Beth sy' mewn enw" ar Radio Cymru[4]. Noda fod yr enw Cymraeg yn cael ei gofnodi fel "Rhaiadr y Wennol" yn gyson nes yr ugeinfed ganrif.[5]. Felly mae "Swallow Falls" yn gyfieithiad cywir sy'n codi wrth i'r ardal ddod yn fwy poblogaidd gyda ymwelwyr ar wyliau. Mae'r Athro yn cynnig fod llif y dŵr dros gerrig y rhaeadr yn ymdebygu i gynffon gwennol. Mae'r enw Saesneg yn ymddangos yn 1860 ac awgrymodd Hywel Wyn Lloyd "efallai fod yr enw Cymraeg wedi ei anghofio nes iddo gael ei gyfieithu yn ôl".

Mewn nodyn yn y cyfieithiad Cymraeg o Tours in Wales Thomas Pennant a gyhoeddwyd yn 1853, mae'r ysgolhaig Celtaidd Syr John Rhŷs yn nodi bod mwy nag un ystyr i'r gair 'gwennol'. Yn ogystal â'r aderyn ei hun gall 'gwennol' olygu "y plu onglog yn ei gynffon" a hefyd "y darn cul a dorrir allan o glust y ddafad" fel nod dafad (nod clust) "a elwir gwennol gan y bugeiliaid". Mae'n cynnig mai ymraniad y rhaeadr yn ddwy brif ffrwd sy'n esbonio'r enw Cymraeg gwreiddol felly, naill ai am ei bod yn edrych fel cynffon gwennol neu am ei bod yn debyg i doriad mewn clust dafad.[1]

Chwedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl marwolaeth Syr John Wynn, tyfodd chwedl werin leol sy'n adrodd fod ei ysbryd aflonydd wedi ei gaethiwo dan Rhaeadr Ewynnol, iddo gael ei olchi a'i buro oddi wrth ei weithredoedd drwg! Ond cofier iddo sefydlu ysbyty i'r tlodion yn Llanrwst ac ariannu ysgol yno.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Thomas Pennant, Teithiau yn Nghymru (Caernarfon, 1883).
  2. Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-1811). (Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Caernarfon, 1952).
  3. Peter Bailey Williams, The Tourist's Guide through the County of Caernarvon (Caernarvon, 1821).
  4. [1] Beth sy' mewn enw, BBC Radio Cymru
  5. [2] Cronfa Ddata Enwau Lleoedd - Archif Melville Richards