Dafydd ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Dafydd, Arglwydd Dyffryn Clwyd[1]
Baner Gwynedd

Roedd Dafydd ap Gruffudd (c. 12383 Hydref, 1283) yn Dywysog Cymru o Ragfyr 1282 hyd 1283, yn dilyn marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd. Ef oedd yr olaf o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd, er mai ei frawd Llywelyn a gafodd y teitl Ein Llyw Olaf.

Blynyddoedd cynnar[golygu]

Yr oedd Dafydd yn fab i Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i wraig Senana, ac felly'n wŷr i Llywelyn Fawr. Y trydydd o bedwar mab oedd Dafydd. Yn 1241 cofnodi iddo ef a'i frawd iau Rhodri gael eu rhoi'n wystlon i'r brenin Harri III o Loegr fel rhan o gytundeb.Yn 1253 cofnodir iddo gael ei alw i dalu gwrogaeth i Harri III.

1255-81[golygu]

Yn 1255 ymunodd a'i frawd Owain yn erbyn Llywelyn, ond cawsant eu gorchfygu ganddo ym Mrwydr Bryn Derwin. Carcharwyd Dafydd, ond rhyddhaodd Llywelyn ef y flwyddyn ddilynol a'i adfer i'w lys. Yn 1263 ymunodd a Harri III mewn ymgyrch yn erbyn Llywelyn. Wedi i Lywelyn gael ei gydnabod gan Harri fel Tywysog Cymru yn ôl Cytundeb Trefaldwyn yn 1267, adferwyd Dafydd i ffafr Llywelyn eto, ond yn 1274 ymunodd a'r brenin Edward I, brenin Lloegr mewn ymgyrch arall yn erbyn Llywelyn. Priododd ag Elizabeth Ferrers, merch William de Ferrers, Iarll Derby a pherthynas pell i'r brenin.

Rhyfel 1282-83[golygu]

Yr oedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar Sul y Blodau 1282 ymosododd Dafydd ar Penarlâg, gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Yr oedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng Nghilmeri ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw Castell Dolwyddelan am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar 18 Ionawr 1283, enciliodd Dafydd i Gastell y Bere, lle bu byddin o dros 3,000 o wŷr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar 25 Ebrill ond llwyddodd Dafydd i ddianc i Castell Dolbadarn, cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau Cadair Idris.

Ei ddiwedd[golygu]

Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd. Ar 30 Medi dedfrydwyd ef i farwolaeth am deyrnfradwriaeth, oherwydd ei fod wedi torri cytundebau a wnaeth â'r brenin. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru. Mae rhai yn credu mai ef oedd y cyntaf i ddioddef y math yma o ddienyddiad erchyll an deyrnfradwriaeth, a ddaeth yn gyffredin dan cyfraith Lloegr yn y canrifoedd nesaf. Gosodwyd pen Dafydd ar bolyn yn Nhŵr Llundain gerllaw pen ei frawd Llywelyn.

Tynged yr etifeddion[golygu]

Gyrrwyd ei ferch Gwladys, i leiandy yn Sixhills, lle bu farw yn 1336, tra charcharwyd ei feibion bychain Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste. Cawsant yr un driniaeth ag etifeddion Llywelyn Ein Llyw Olaf felly, gyda'r bwriad gan Edward I o ddileu Teulu Gwynedd am byth. Yn ôl rhai o'r achau Cymreig, goroesodd ei fab perth a llwyn, Dafydd Goch, a bu ei ddisgynyddion yn byw yn Nant Conwy am sawl cenhedlaeth.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • John Davies, Hanes Cymru (Llundain, 1990)
  • Ralph Maud, Dafydd Tywysog Olaf Cymru ('Cofiwn', 1983). Cyfieithiad o'r erthygl Saesneg a gyhoeddywd yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1968.
  • J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986)

Cyfeiriadau[golygu]

O'i flaen :
Llywelyn ap Gruffydd
Tywysogion Gwynedd Olynydd :
---