Esgyryn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Esgyryn. Gwelir yr obelisg yn y cefndir.

Pentref bychan iawn yn ardal y Creuddyn, Bwrdeistref sirol Conwy, yw Esgyryn (amrywiad: Esgyrn - cyfeiriad grid SH804787). Fe'i lleolir ar gyrion gogleddol Cyffordd Llandudno.

Bu cymuned fechan yn Esgyryn ers canrifoedd. I'r gogledd-orllewin ceir allt goediog a'r tir yn perthyn i ystad Bodysgallen. I'r gogledd-ddwyrain o'r pentref ceir pentref bychan Pydew (Bryn Pydew).

Nodwedd amlycaf Esgyryn heddiw yw'r obelisg trawiadol a godwyd gan unigolyn - yn groes i ddeddfau cynllunio lleol - ar y bryn i'r de.