Maelgwn Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Maelgwn Gwynedd (enw llawn Maelgwn ap Cadwallon, c.480-c.547, brenin Gwynedd o tua 520?) (Lladin: Maglocunus); hefyd yn cael ei alw yn Maelgwn Hir) oedd brenin teyrnas Gwynedd yn ail chwarter y 6ed ganrif OC. Y mae hefyd yn gymeriad sy'n ymddangos mewn chwedlau gwerin.

Y Maelgwn hanesyddol[golygu]

Yr oedd Maelgwn yn frenin Gwynedd ac yn un o frenhinoedd mwyaf dylanwadol y chweched ganrif. Roedd yn fab i Cadwallon Lawhir ab Einion Yrth. Mae'n un o bum brenin mawr y Brythoniaid sy'n cael eu beirniadu'n hallt am eu pechodau gan Gildas (sy'n ei alw yn Maglocunus) yn De Excidio Britanniae. Disgrifir Maelgwn fel "draig yr ynys"; cyfeiriad at Ynys Môn efallai. Maelgwn yw'r mwyaf grymus o'r pum brenin yn ôl Gildas:

"... ti , y diweddaf yr ysgrifennaf am dano ond cyntaf a phennaf mewn drygioni; yn fwy na llawer mewn gallu, ac ar yr un pryd mewn malais; yn fwy haelionnus mewn rhoddi; ac mewn pechod yn fwy afradlon; cadarn mewn rhyfel, ond cadarnach i ddinistrio dy enaid ... ".

Mae Gildas yn cyhuddo Maelgwn o fod wedi gyrru ei ewythr o'i deyrnas trwy rym "ym mlynyddoedd cyntaf dy ieuenctid". Yna, meddai Gildas, edifarhaodd am ei bechodau a thyngu llw i fynd yn fynach, ond ni pharhaoedd ei edifeirwch a dychwelodd i'w bechodau. Cyhuddir ef o fod wedi llofruddio ei wraig a'i nai er mwyn medru priodi gweddw ei nai.

Mae'n ymddangos mai Caer Ddegannwy, rhwng Degannwy a Llanrhos, oedd safle prif lys Maelgwn, a disgrifir y beirdd oedd yn canu ei foliant yno. Yn ôl Gildas, yr oedd yn gwrando ar ei foliant ei hun yn hytrach nag ar foliant Duw. Erbyn diwedd ei deyrnasiad yr oedd Maelgwn wedi ei sefydlu ei hun fel y brenin mwyaf grymus yng Nghymru, ac etifeddodd ei fab Rhun ei deyrnas. Yn ôl yr Annales Cambriae bu farw o bla a elwir "Y Fad Felen" yn 547.

Chwedlau am Maelgwn[golygu]

Eglwys Rhos, Llanrhos: yma y bu farw Maelgwn Gwynedd yn 547, yn ôl traddodiad, wedi ei daro gan y Fad Felen

Un chwedl am Maelgwyn yw ei fod wedi rhoi sialens i frenhinoedd eraill Cymru i gystadleuaeth i benderfynu pwy fyddai ben ar y gweddill. Awgrymodd fod pob brenin yn eistedd ar gadair ar y traeth pan oedd y llaw'n dod i mewn. Byddai'r brenin allai aros ar ei gadair hwyaf yn dod yn ben ar y gweddill. Gorfododd y llanw i'r brenhinoedd eraill adael ei cadeiriau, ond yr oedd Maelgwn wedi trefnu i gael gwneud cadair fyddai'n nofio, felly enillodd trwy ystryw. Ceir chwedl gyffelyb am y brenin Danaidd Cnut yn Lloegr.

Yn ôl traddodiad rhoddodd Maelgwn un rhan o Ynys Môn i Sant Cybi a'r llall i Seiriol. Yn ôl un traddodiad, cafodd ei gladdu ar Ynys Seiriol (ond gweler isod). Efallai fod y disgrifiad ohono fel Insula draco ('Draig yr Ynys', sef 'brenin yr ynys') gan Gildas yn cyfeirio at y ffaith fod Môn yn ei feddiant.

Mae yna gysylltiad cryf rhwng Maelgwn Gwynedd a'r Taliesin chwedlonol. Roedd Elffin ap Gwyddno yn garcharor gan y brenin ac ymwelodd Taliesin â'i lys yn Negannwy i'w ryddhau. Cafodd ymryson barddol â beirdd llys Maelgwn.

Mae traddodiad arall yn cysylltu Maelgwn â math o eisteddfod gynnar. Fel rhan o'r ornest bu rhaid i'r beirdd druain nofio Afon Conwy. Mae'r chwedl honno'n awgrymu cysylltiad rhyngddo a bryngaer Caer Seion hefyd.

Yn ôl traddodiad, bu farw Maelgwn o'r Pla Melyn. Ymguddiodd yn Eglwys Rhos, ger ei lys, ond fe'i trawyd yn farw gan y pla er hynny. Ceir nifer o gyfeiriadau at y digwyddiad ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, yn aml gydag amrywiad ar y fformiwla "Hir hun Maelgwn yn Rhos".

Un peth sy'n cael ei dangos yn glir gan y traddodiadau hyn a 'hanes' Gildas yw bod Maelgwn yn frenin nerthol gydag awdurdod eang a'i fod yn noddwr pwysig i'r beirdd.

Cyfeiriadau[golygu]

  • John Owen Jones (1899), O lygad y ffynnon: cyfieithiadau o weithiau haneswyr boreuaf Cymru, sef Cesar, Tacitus, Gildas, Nennius, Asser. (Davies ac Evans, Y Bala)

Gweler hefyd[golygu]

Rhagflaenydd :
Cadwallon Lawhir
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Rhun ap Maelgwn Gwynedd