Creuddyn (Rhos)

Oddi ar Wicipedia
Creuddyn (Rhos)
Mathardal, cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoly Berfeddwlad Edit this on Wikidata
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaUwch Dulas, Is Dulas Edit this on Wikidata
Am y cwmwd o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Creuddyn (Ceredigion). Gweler hefyd Creuddyn (gwahaniaethu).

Cwmwd canoloesol a bro ar arfordir gogledd Cymru yw'r Creuddyn. Gydag Uwch Dulas ac Is Dulas roedd yn un o dri chwmwd cantref Rhos. Yn yr Oesoedd Canol Cynnar bu'r Creuddyn yn ganolfan wleidyddol bwysig ac yn gartref i lys Maelgwn Gwynedd. Mae'r enw yn parhau yn enw'r ysgol gyfrwng Gymraeg leol, Ysgol y Creuddyn. Heddiw mae'r fro yn cynnwys tref Llandudno, Degannwy a Bae Penrhyn.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Gorwedd y Creuddyn ar orynynys eang o dir rhwng Bae Conwy ac afon Conwy i'r gorllewin a dyffryn Afon Ganol (ger Mochdre) ac arfordir y gogledd-ddwyrain i'r de a'r dwyrain. Ac eithrio yn y de, lle mae'n ffinio ag Uwch Dulas, fe'i amgylchynir yn gyfangwbl gan y môr. Yn ei ben gogledd-orllewinol ceir penrhyn calchfaen Pen y Gogarth ac yn y gogledd-ddwyrain ceir penrhyn Rhiwledyn. Rhwng y ddau benrhyn ceir tir gwastad lle saif tref Llandudno heddiw. Ar lan afon Conwy ceir Castell Degannwy, safle bryngaer a chastell canoloesol.

Hanes a thraddodiadau[golygu | golygu cod]

Safle Castell Degannwy

Yn ogystal â llys Maelgwn yn Eglwys Rhos (Llanrhos) a chastell Degannwy, ceir sawl safle hanesyddol yn y Creuddyn. Ar Ben y Gogarth ceir cloddfa copr cynhanesyddol a fu ymhlith y pwysicaf yng ngogledd-orllewin Ewrop. Ar y Gogarth hefyd ceir nifer o olion yr hen oesoedd, fel cromlech Llety'r Filiast. Bu'n ganolfan bwysig yn hanes cynnar Cristnogaeth yng Nghymru yn ogystal, gydag Eglwys Tudno ar y Gogarth, Eglwys Rhos yn y canol rhwng Degannwy a Rhiwledyn, ac eglwys Llangystennin i'r dwyrain.

Cysylltir y fro ag ail ran Hanes Taliesin, y chwedl sy'n adrodd hanes chwedlonol Taliesin a'i noddwr Elffin ap Gwyddno. Carcharwyd Elffin yng Nghastell Degannwy, yn ôl y chwedl, ond cafodd ei ryddhau ar ôl i Daliesin drechu beirdd llys Maelgwn mewn ymryson barddol enwog. Man arall yn y Creuddyn a gysylltir â'r chwedl yw Morfa Rhianedd (Pen Morfa heddiw), wrth droed y Gogarth; daeth rhyw anghenfil ofnadwy, sy'n cynrhychioli'r Pla Melyn, oddi yno i ddwyn dinistr ar y brenin a guddiasai yn Eglwys Rhos.

Daeth rhai o'r "trefi" canoloesol yn ganolfannau pwysig yn yr Oesoedd Canol Diweddar, yn eu plith Bodysgallen a Gloddaeth. Roedd rhan o Ben y Gogarth yn perthyn i esgobaeth Bangor ac yno y codwyd "Abaty"'r Gogarth, ond math o blasdy eglwysig oedd yn hytrach nag abaty.

Roedd y cwmwd yn rhan o deyrnas Gwynedd yn y Berfeddwlad neu Wynedd Is Conwy. Chwareai rhan bwysig yn hanes y cyfnod yn y brwydro rhwng tywysogion Gwynedd a'r Normaniaid a'r Saeson. Pan luniwyd Sir Gaernarfon yn 1284 daeth yn rhan o'r sir newydd, dros yr afon o weddill y sir. Heddiw, ar ôl cyfnod fel rhan o'r hen Wynedd, mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol Conwy ac wedi datblygu'n ardal breswyl a gwyliau glan môr.

Trefi canoloesol[golygu | golygu cod]

Y Creuddyn ar ran o fap o tua 1577.

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau a darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1947)