Bodysgallen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bodysgallen

Plasdy hynafol ger pentref Llanrhos yn y Creuddyn, bwrdeistdref sirol Conwy, yw Bodysgallen (hefyd Bodysgallan neu Neuadd Bodysgallen). Mae'r adeilad presennol, sy'n gofrestredig, yn dyddio o'r 17eg ganrif yn bennaf gydag ychwanegiadau diweddarach, ond mae'r safle yn hŷn o lawer. Bu gorthwr ar y safle yn yr Oesoedd Canol. Heddiw mae Bodysgallen yn westy moethus.

Yn ôl traddodiad, roedd gan Cadwallon Law-hir, brenin Gwynedd (442-517), lys yma yn y 5ed ganrif,[1] ond does dim modd profi hynny. Credai'r hynafiaethydd lleol y Parch. Robert Williams (1810-81) fod adfeilion plas Cadwallon i'w gweld yn y coed ar y bryn ger y plasdy, ond mae'n debyg mai adfeilion adeiladwaith canoloesol ydynt.[2] Erbyn yr Oesoedd Canol ymddengys ei fod yn un o dri gwely (uned o dir etifeddol) a berthynai i deulu'r Gloddaeth. Trwy amryfusedd oherwydd tebygrwydd eu henwau, credai Thomas Pennant ac eraill mai plas Caswallon yn hytrach na Cadwallon oedd Bodysgallen (neu "Bod Caswallon").[3]

Codwyd y prif adeilad presennol yn 1620 gan Robert Wynn, ac ychwanegwyd estyniad sylweddol yn un pen iddo yn y 19eg ganrif. Mae gan y plasdy erddi cynlluniedig ffurfiol o gyfnod Robert Wynn a ystyrir yn un o'r enghreifftiau gorau o erddi o'r math yn y wlad. Priododd Robert Wynn (Bodysgallen) Elen ferch Robert Wynn (o Blas Mawr) a thrwy hynny daeth Plas Mawr, Conwy, i feddiant y teulu.[4]

Gerddi a pharcdir[golygu]

Gardd parterre Bodysgallen

Lleolir Bodysgallen ar lethr orllewinol Bryn Pydew o fewn coedwig lydan-dail hill rhwng Llanrhos a Cyffordd Llandudno. Mae'r tir amgylchynnol, sy'n rhan o ystad Bodysgallen o hyd, yn gymsgedd o dir porfa a choedwigoedd naturiol sydd heb newid llawer ers yr Oesoedd Canol. Noda Richard Fenton yn 1810 fod Bodysgallen yn gorwedd mewn coedwigoedd o dyfiant hynafol ("embosomed in woods of Noble growth, which are suffered to luxuriate their own way, without any fear of the axe"). Mae'r gerddi presennol yn dyddio i 1678 ac yn waith Robert Wynn, mab Hugh Wynn. Gardd parterre yn arddull yr Iseldiroedd yw'r brif ardd, sy'n gorwedd yn isel rhwng waliau uchel. Dyma'r fath o ardd fu'n ffasiynol gan yr uchelwyr yng ngwledydd Prydain yn yr 17eg ganrif. Ceir drysfa o wrychoedd cynlluniedig (topiary maze) yno heddiw ac i'r dwyrain ceir gardd rhosynnau ffurfiol.

Oriel luniau[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Robert Williams, The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood, (Dinbych, 1835)
  2. Robert Williams, op. cit.
  3. Pennant, Tours in Wales
  4. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947).

Darllen pellach[golygu]

  • C.Michael Hogan ac Amy Gregory, History and architecture of Bodysgallen Hall, North Wales (Lumina Technologies, 2006)