Pen Llithrig y Wrach
Oddi ar Wicipedia
| Pen Llithrig y Wrach (Y Carneddau) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Pen Llithrig y Wrach o'r ffordd i Lyn Cowlyd |
| Uchder (m) | 799 |
| Uchder (tr) | 2621 |
| Amlygrwydd (m) | 183 |
| Lleoliad | yn Eryri |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17E |
| Cyfesurynnau OS | SH716622 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Pen Llithrig y Wrach; saif yn sir Conwy.
Mae Pen Llithrig y Wrach ar y grib sy'n ymestyn tua'r de-ddwyrain oddi wrth brif grib y Carneddau, gan gychwyn ar ochr ddwyreiniol Carnedd Llywelyn ac arwain dros gopa Pen yr Helgi Du a gorffen gyda Pen Llithrig y Wrach uwchben Llyn Cowlyd, er bod Creigiau Gleision yr ochr arall i Lyn Cowlyd hefyd yn cael eu hystyried yn rhan o'r Carneddau.
Gellir ei ddringo ar hyd llwybr sy'n cychwyn o Bron Heulog, ychydig i'r gorllewin o bentref Capel Curig, neu gellir ei ddringo o'r gogledd-ddwyrain, o gyfeiriad Dolgarrog neu Tal-y-bont.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'