Gloddaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hen blasdy yn ardal y Creuddyn, bwrdeisdref sirol Conwy, yw Gloddaeth. Saif ym mhlwyf Llanrhos i'r de o dref Llandudno.

Hanes[golygu]

Neuadd Gloddaeth heddiw.

Yn Oes y Tywysogion Gloddaeth oedd un o'r "trefi" canoloesol pwysicaf yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos. Yn ôl tradoddiad, sefydlwyd plasdy yno gan un Iorwerth Goch o'r Creuddyn, efallai yn y 13eg ganrif. Roedd ei ddigynydd Gruffudd ap Rhys ap Gruffudd o'r Goddaeth, yn byw yno ym 1448. Yn y flwyddyn honno collodd saith o'i blant (pum mab a dwy ferch) i'r Pla. Canodd y bardd Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd farwnad i'r saith.

Ond er bod iddo hanes hen, mae'r plasdy presennol yn dyddio i'r 16eg ganrif. Fe'i codwyd yn oes Elisabeth I o Loegr gan Thomas Mostyn, aelod o deulu grymus y Mostyniaid. Cefnogai'r Mostyniaid achos y Tuduriaid adeg Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac ymladdodd Rhisiart ap Hywel, Arglwydd Mostyn, ym myddin Harri Tudur ym Maes Bosworth (1485), gan arwain 1,500 o wŷr y gogledd. Yn ôl yr hanes, gwrthododd Rhisiart le yn llys y brenin newydd, gan ateb ei fod yn well ganddo fyw yng Ngloddaeth "gyda'i bobl ei hun".

Bu plasdy Gloddaeth yn gartref i un o'r casgliadau pwysicaf o lawysgrifau Cymreig. Cafodd y llyfrgell hynafol ei symud i blasdy Mostyn yn ddiweddarach. Cyfeirir atyn nhw fel 'Llawysgrifau Mostyn'.

Ar bentan prif aelwyd y plasdy ceir y geiriau

Heb Dduw, heb Ddim.
Duw a Digon.

Parhaodd rhai aelodau o'r teulu i fyw yno hyd at 1935 pan gafodd ei defnyddio fel ysgol breswyl i ferched, a gaeodd ym 1964. Ym 1965, rhoddodd Arglwydd Mostyn y brydles i Goleg Dewi Sant (St David's College), ysgol breifat i fechgyn, ac erbyn hyn mae'r neuadd yn un o adeiladau'r coleg hwnnw.

Cyfeiriadau[golygu]

  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)
  • Rev. Robert Williams, The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood (Dinbych, 1835)