Llandudno

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°19′N 3°49′W / 53.32°N 3.82°W / 53.32; -3.82

Llandudno
Llandudno in Wales.jpg
Golygfa ar Landudno o Ben y Gogarth
Llandudno is located in Conwy
Llandudno

 Llandudno o fewn: Conwy
Poblogaeth 20,100 
Prif ardal Conwy
Sir seremonïol Clwyd
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANDUDNO
Cod deialu 01492
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Aberconwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Conwy
Rhiwledyn a'r traeth o brom gogleddol Llandudno

Tref arfordirol yn Mwrdeistref Sirol Conwy yw Llandudno, sy'n gorwedd ar benrhyn y Creuddyn i'r gogledd o Gonwy a Bae Colwyn. Mae ganddi boblogaeth o tua 15,000. Mae'n gorwedd ar y tir isel sydd rhwng tir mawr gogledd Cymru a Phen y Gogarth Fe'i hadeiladwyd yn bennaf yn y 19eg ganrif fel cyrchfan gwyliau ac mae ei phensaernïaeth hanesyddol yn enwog. Mae'n un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd gogledd Cymru. Daw ei henw o blwyf hynafol Sant Tudno. Mae Caerdydd 208.8 km i ffwrdd o Llandudno ac mae Llundain yn 322.5 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 23.2 km i ffwrdd.

Cynnwys

Hanes[golygu]

Mae'r adeiladau yn y rhan fwyaf o'r dref yn perthyn i'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ond mae hanes ardal plwyf Llandudno yn cychwyn yn y cyfnod cynhanesyddol. Yn Oes yr Efydd dechreuwyd cloddio am gopr ar y Gogarth a bu diwydiant cloddio copr yn yr ardal hyd at y 19eg ganrif. Ceir cromlech a meini eraill ar y Gogarth.

Yn ôl traddodiad, sefydlodd Sant Tudno gell ar y mynydd yn y 6ed ganrif mewn man a nodir gan Eglwys Tudno heddiw. Dyma gyfnod y brenin Maelgwn Gwynedd hefyd, a gysylltir â Chaer Ddeganwy ac Eglwys Rhos.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif dim ond pentref bychan, yn gartref i bysgotwyr a mwyngloddwyr copr a'u teuluoedd oedd wrth droed y Gogarth. Datblygwyd y tir wastad rhwng y Gogarth a Rhiwledyn yn y 19eg ganrif a chodwyd nifer o westai crand a thai. Y prif atyniad oedd y ddau draeth braf - Pen Morfa a Thraeth y Gogledd - a'r awyr iach. Tyfodd Llandudno i fod un o brif gyrchfannau gwyliau glan môr Cymru a gwledydd Prydain gyda nifer o'r ymwelwyr yn dod o ogledd-orllewin Lloegr i ddianc o'r dinasoedd am ysbaid, Roedd agor y lein reilffordd yn hwb anferth i'r diwydiant twristaidd ac yn ei anterth byddai rhai miloedd o ymelwyr yn cyrraedd y dref bob dydd yn yr haf.

Cyfryngau[golygu]

Gwasanaethir Llandudno gan orsaf radio cymunedol Tudno FM, sy'n darlledu yn Saesneg (yn bennaf) ac yn Gymraeg. Y Pentan yw'r papur bro lleol.

Cludiant[golygu]

Gwasanaethir y dref gan gangen rheilffordd o Gyffordd Llandudno, sy'n rhan o Reilffordd Dyffryn Conwy. Trwy orsaf y Cyffordd ceir gwasanaethau ar lein Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru i gyfeiriad Caergybi i'r gorllewin a dinas Caer i'r dwyrain. Bu Gorsaf Trenau Llandudno yn un o'r rhai mwyaf crand yng Nghymru ar un adeg, ond mae llawer o'r to haearn bwrw a gwydr wedi ei dynnu i lawr a dim ond rhan sy'n aros heddiw. Adeilad briciau coch a godwyd yn y 19eg ganrif yw'r orsaf.

Mae Llandudno yn ganolfan gwasanaethau bysiau lleol gyda nifer o wasanaethau yn ei chysylltu â'r trefi a phentrefi lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg gan gwmni Arriva Cymru.

Pobl o Landudno[golygu]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llandudno ym 1896 a 1963. Am wybodaeth bellach gweler:

Chwaraeon[golygu]

Mae'r dref yn gartref i C.P.D. Llandudno, sy'n cystadlu yn y Gynghrair Undebol. Ceir maes criced yn y dref, cartref Clwb Criced Llandudno.

Delweddau[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail arg. 2002)

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato