Criced
Mae criced yn gamp bat a phêl ym myd chwaraeon sydd gan amlaf yn cael ei chwarae rhwng dau dîm o un ar ddeg chwaraewr. Caiff gêm o griced ei chwarae ar gae gwair (sydd fel arfer yn siap hirgrwn) sydd â llain o dîr, dau lath ar hugain o hyd, sy'n ddi-wair. Ar bob pen y llain, mae strwythur pren wedi ei ffurfio o dri polyn paralel fertigol (stympiau) wedi eu dreifio i mewn i'r ddaear a dau ddarn croes (caten) yn gorwedd ar ben y stympiau. Gelwir y strwythurau hyn yn wicedi. Bydd chwaraewr o'r tîm sy'n maesu (y bowliwr) yn bowlio pêl lledr o un wiced tuag at y wiced arall. Fel arfer, bydd y bel yn adlamu unwaith oddi ar y llain cyn cyrraedd chwaraewr o'r tîm arall (y batiwr), sy'n amddiffyn y wiced o'r bêl gyda bat criced pren.Mae yna tair fath o criced - criced un diwrnod, criced 5 dirnod a criced 20-20. Ar y funud y fath fwyaf poblogaidd yw criced 20-20 am ei fod yn cyffrous ac yn byr.
Cysylltiadau allanol [golygu]