Bryn-y-maen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bryn-y-maen o Fynydd Llanelian
Bryn-y-maen cottages - geograph.org.uk - 127747.jpg

Pentref bychan yn Sir Conwy yw Bryn-y-maen, sy'n gorwedd yn y bryniau tua 3 milltir i'r de o dref Bae Colwyn ar ymyl ddwyreiniol Dyffryn Conwy. Mae'n bentref ar wasgar o gwmpas cyffordd wledig. Mae ffyrdd yn cysylltu'r pentref â'r A55 ger Glan Conwy, Mochdre a Bae Colwyn i'r gogledd, gyda Pentrefelin i'r gorllewin, Betws yn Rhos i'r dwyrain a Llanrwst i'r de.

I'r de-ddwyrain o'r pentref ceir Mynydd Llanelian (336 m). Mae Bryn-y-maen yn adnabyddus yn lleol fel lleoliad Gwarchodfa Achub Anifeiliaid yr RSPCA.