Dolwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dolwen

Pentref bychan yn sir Conwy yw Dolwen (Cyfeirnod OS: SH8874). Fe'i lleolir ar groesffordd lle mae'r B5383 o Fae Colwyn yn cwrdd â'r B5381 sy'n cysylltu Glan Conwy, i'r gorllewin, a Llanelwy i'r dwyrain. Y dref agosaf yw Bae Colwyn, tua 4 milltir i'r gogledd.

Llifa dwy o isafonydd Afon Dulas heibio i'r pentref ar ei ffordd o'r bryniau i aberu ym Môr Iwerddon ger Llanddulas. Yr enw ar un o'r isafonydd hyn ers talwm oedd Afon Dhôl Wen (c1700), sef tarddiad enw'r pentref.[1]

Cyfeirir at y pentref am y tro cyntaf mewn dogfen sy'n dyddio o 1546.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dictionary of Welsh Placenames gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 2007


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.