Gwytherin, Conwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwytherin: canol y pentref.

Pentref yn sir Conwy yw Gwytherin. Saif ar y ffordd B5384 rhwng Pandy Tudur a Llansannan, i'r gogledd o Fynydd Hiraethog ac i'r de o bentref Llangernyw. Mae Afon Cledwen yn llifo heibio'r pentref.

Yn ôl traddodiad sefydlwyd yr eglwys gan Sant Gwytherin yn y 6ed ganrif. Yn ôl traddodiad arall, treuliodd y santes Gwenffrewi gyfnod yma fel meudwy, a chladdwyd hi yma. Yn ddiweddarach symudwyd ei gweddillion i Abaty'r Benedictiaid yn Amwythig. Hyd at y 18fed ganrif roedd cist bren yn yr eglwys oedd, yn ôl y sôn, unwaith wedi cynnwys gweddillion Gwenffrewi. Mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 9eg ganrif, ond mae cerrig beddau o'r 14eg ganrif tu mewn.

Ym mynwent yr eglwys mae pedair carreg hynafol wedi eu gosod mewn rhes o'r dwyrain i'r gorllewin. Ar un ohonynt ceir arysgrif mewn Lladin; "VINNEMAGLI FILI / SENEMAGLI" ("[Carreg] Vinnemaglus fab Senemaglus"), Credir fod yr arysgrif yn dyddio i'r 5ed neu'r 6ed ganrif, ond cred rhai fod y cerrig eu hunain yn llawer hŷn.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: