Cyffordd Llandudno

Oddi ar Wicipedia
Cyffordd Llandudno
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.28°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH794778 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Tref fechan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cyffordd Llandudno[1] (Saesneg: Llandudno Junction).[2] Tyfodd o gwmpas yr orsaf o'r un enw ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n cysylltu Llandudno a Blaenau Ffestiniog, yn defnyddio'r orsaf yn ogystal. Gan fod y rhan fwyaf o deithwyr yn ymwelwyr i Landudno aeth 'Cyffordd Llandudno' yn enw yr orsaf newydd. Cyn dyfodiad y rheilffordd Tre Marl oedd enw'r pentref bach y tyfodd Cyffordd Llandudno ohoni. "Y Gyffordd" neu "Junction" yw ei enw ar lafar yn lleol.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, mae'n rhan o blwyf Llangystennin, gynt yn rhan o gwmwd Creuddyn. Fe'i lleolir tua tair milltir a hanner i'r de o Landudno ar lan ddwyreiniol Afon Conwy. Dros yr afon, sy'n aberu ym Mae Conwy yma, mae tref hanesyddol Conwy. Mae pont rheilffordd hynafol dros yr afon, a godwyd gan Robert Stephenson, hen bont grog a godwyd gan Thomas Telford, a phont ddiweddar yn cysylltu'r Gyffordd â Chonwy. Yn rhedeg dan yr afon ceir y twnnel y mae lôn ddeuol yr A55 yn rhedeg drwyddo, gan osgoi'r Gyffordd ei hun. I'r gogledd mae Cyffordd Llandudno yn ymdoddi i dref Deganwy. I'r gogledd-ddwyrain mae bryniau'r Marl yn ei chysgodi. I'r dwyrain mae'r hen lôn yn arwain i Fochdre a Bae Colwyn.

Gorsaf Cyffordd Llandudno

Adeiladau[golygu | golygu cod]

Yr adeilad amlycaf yn y dref yw Gorsaf reilffordd Cyffordd Llandudno.

Ar hen safle ffatri Hotpoint ar ymyl y dref ceir swyddfeydd rhanbarthol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Gogledd.

Ceir archfarchnad Tesco fawr a sinema amlsgrin ar gyrion y dref, rhwng yr orsaf a'r A55.

Ym mis Medi 2016, unodd y ddwy ysgol gynradd yng Nghyffordd Llandudno, Ysgol Maelgwn ac Ysgol Nant-y-Coed, i ffurfio ysgol newydd, Ysgol Awel y Mynydd.

Gwarchodfa Adar Glan Conwy[golygu | golygu cod]

Yn ymyl y Gyffordd ar lan Afon Conwy ceir gwarchodfa adar Glan Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o'r Gyffordd i gyffiniau pentref Glan Conwy. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Pentrefi bychain ger y Gyffordd:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021