Bylchau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bylchau

Pentref bychan gwledig ym mwrdeistref sirol Conwy (yn Sir Ddinbych gynt) yw Bylchau (cyfeiriad grid SH975630). Saif ar gyffordd y ffordd A543 a'r A544, tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Dinbych a 3 milltir i'r de-ddwyrain o Lansannan.

Fe'i enwir yn Bylchau am fod dau fwlch yn y plwyf. Mae'r pentref yn gorwedd 330m i fyny yn y bryniau gyda Mynydd Hiraethog yn gorwedd i'r de.


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Bylchau
yn Wiciadur.