Llandrillo-yn-Rhos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llandrillo-yn-Rhos.

Pentref, plwyf a chymuned ar arfordir bwrdeisdref sirol Conwy yw Llandrillo-yn-Rhos, weithiau Llandrillo (Saesneg: Rhos-on-Sea). Saif rhyw filltir i'r gorllewin o dref Bae Colwyn, ac erbyn hyn mae i bob pwrpas yn faesdref o'r dref honno. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 7,593.[1]

Gerllaw mae Bryn Euryn, lle mae gweddillion bryngaer a atgyfnerthwyd yn yr Oesoedd Canol cynnar, efallai yn oes Maelgwn Gwynedd, a chwarel galchfaen fechan. Gellir gweld gweddillion Llys Euryn, sy'n dyddio o'r 16eg ganrif ond a adeiladwyd ar safle plas cynharach lle trigai Ednyfed Fychan, distain a phrif gynorthwydd Llywelyn Fawr yn rhan gyntaf y 13eg ganrif.

Ar y traeth islaw Bryn Eurun mae Rhos Fynach, lle adeiladwyd gored bysgota gan fynachod Abaty Aberconwy. Roedd yn cael ei ddefnyddio i bysgota hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Yn ôl un chwedl, o Landrillo y cychwynnodd Madog ar ei fordaith i America.

Rhwng Llandrillo a Bae Penrhyn, saif campws Coleg Llandrillo Cymru.

Eglwys Sant Trillo[golygu]

Dyddia eglwys Llandrillo-yn-Rhos, a gysegrwyd i Sant Trillo, o'r 13eg ganrif, ac efallai fod cysylltiad ag Ednyfed Fychan. Ger y môr mae Capel Trillo, capel bychan a all fod yn dyddio o'r 6ed ganrif.

Capel Sant Trillo[golygu]

Mae Capel bychan Sant Trillo'n dyddio'n ôl i'r 6ed ganrif ac wedi'i leoli ar safle cyn-Gristnogol: yn union uwch ben ffynnon cysegredig, Celtaidd. Mab Ithel Hael oedd Trillo, mae'n debyg, a cheir eglwysi eraill wedi'u cysegru iddo yn Eryri, pentref Llandrillo, Dinbych a chredir mae o Lydaw y daeth i Gymru. Roedd Trillo'n frawd i Tygai (Llandygái), ac ef a sefydlodd yr eglwys ger y Penrhyn, Bangor. Eu chwaer Llechid a sefydlodd Eglwys Llanllechid uwchlaw'r Penrhyn.

St Trillo's Chapel, Rhôs-on-Sea - geograph.org.uk - 3056412.jpg

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

7,593

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandrillo-yn-Rhos (pob oed) (7,593)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandrillo-yn-Rhos) (1,366)
  
18.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandrillo-yn-Rhos) (3441)
  
45.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandrillo-yn-Rhos) (1,838)
  
50.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Swyddfa Ystadegaeth Cenedlaethol: Census 2001 : Parish Headcounts : Conwy
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: