Gellioedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel yng Ngellioedd.

Pentref bychan gwledig yn ne-ddwyrain bwrdeistref sirol Conwy (ond yn rhan o'r hen Sir Ddinbych cyn hynny) yw Gellioedd. Mae ar bwys y lôn B4501 hanner ffordd rhwng Cerrigydrudion i'r gogledd a'r Frongoch i'r de.

Llifa afon Medrad trwy'r gymuned wasgaredig. Dwy filltir i'r dwyrain ceir pentref Llangwm.

Mae Gellioedd yn un o gymunedau Uwch Aled.


CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.