Llanrhos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref i'r dwyrain a'r de o dref Llandudno, ym mwrdeisdref sirol Conwy, yw Llanrhos (a elwir hefyd yn Eglwys Rhos). Mae plwyf Llanrhos yn gorwedd yn y Creuddyn, cwmwd a fu'n rhan o hen gantref Rhos yn yr Oesoedd Canol, ac yn cynnwys, yn draddodiadol, Deganwy, ardal Craig-y-Don yn Llandudno, Rhiwledyn a Bae Penrhyn.

Eglwys Rhos, Llanrhos

Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Ilar (Hilary) ac mae'n gorwedd yn Esgobaeth Llanelwy. Cafodd yr eglwys ei atgyweirio'n sylweddol ym 1865 ond mae'n cadw'r hen drawstiau derw a nodweddion pensaerniol eraill o'r hen eglwys sy'n dyddio i'r Oesoedd Canol Diweddar. Yn ôl traddodiad saif yr adeilad presennol ar safle'r eglwys gynharach a godwyd yn y 6ed ganrif gan Maelgwn Gwynedd. Hon oedd yr eglwys flaenaf yng nghantref Rhos a dyna pam y ceir Eglwys Rhos fel hen ffurf ar Llanrhos.

Cysylltir Maelgwn Gwynedd â'r eglwys yn y chwedl Hanes Taliesin a sawl cerdd Cymraeg Canol. Roedd gan y brenin amddiffynfa ar safle Castell Degannwy y cyfeirir ati fel 'Caer Ddegannwy'. Dywedir mai yn Eglwys Rhos y safai ei lys (neu ar safle y castell canoloesol). Yn ôl traddodiad bu Maelgwn farw o'r Fad Felen yn 547 wedi iddo edrych trwy dwll clo'r eglwys ar ôl ceisio lloches rhag y pla ynddi. Ceir sawl fersiwn o hen bennill sy'n cyfeirio at yr hanes. Y cyfeiriad cynharaf yw hwnnw gan Nennius yn ei Historia Brittonum sy'n dyfynnu'r llinell 'Hir hun Faelgwn yn llys Rhos'. Dywedir fod y Pla wedi dal Maelgwn yn rhith sarff euraidd neu ferch hud a lledrith a ddaeth ato o Forfa Rhianedd (wrth droed llethrau gorllewinol Pen y Gogarth).

Hefyd ym mhlwyf Llanrhos, ceir plasdy hanesyddol Gloddaeth a fu'n gartref i Iorwerth Goch o'r Creuddyn yn y 13eg ganrif yn ôl traddodiad. Yn 1460 daeth yn eiddo trwy briodas i'r Mostyniaid, un o'r teuluoedd mwyaf grymus yng Ngogledd Cymru. Parhaodd rhai aelodau o'r teulu i fyw yno hyd at 1935 pan gafodd ei defnyddio fel ysgol breswyl i ferched, a gaeodd ym 1964. Ym 1965, rhoddodd Arglwydd Mostyn y brydles i Goleg Dewi Sant, ysgol breifat i fechgyn.

Plasdy arall yn Llanrhos a ddaeth i feddiant y Mostyniaid oedd Neuadd Bodysgallen, llu bu byw ei berchennog dibriod, Ievan Lloyd Mostyn, hyd at ei farw ym 1966. Yn ôl traddodiad bu gan Cadwallon Lawhir (5ed ganrif) lys ar y safle; yn ôl yr hynafiaethydd Robert Williams yn ei lyfr The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood (1835) mae olion y llys ar ben y bryn coediog gerllaw, ond dyma'r unig gyfeiriad atynt fel safle llys Cadwallon. Erbyn heddiw mae Neuadd Bodysgallen yn westy moethus pum seren.

Plwyf glwedig fu Llanrhos hyd y 19eg ganrif. Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r 20fed cafwyd sawl datblygiad o dai yno, yn arbennig ar yr arfordir, e.e. Craig-y-don.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Ivor Wynne Jones, Llandudno Queen of Welsh Resorts (Landmark, Ashbourne, Swydd Derby, 2002). ISBN 1-84306-048-5
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)
  • Rev. Robert Williams, The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood, (1835)
  • C.Michael Hogan ac Amy Gregory, History and architecture of Bodysgallen Hall, North Wales (Lumina Technologies, 2006)