Llysfaen

Oddi ar Wicipedia
Llysfaen
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,743 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd566.82 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.283°N 3.666°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000132 Edit this on Wikidata
Cod OSSH887771 Edit this on Wikidata
Cod postLL29 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at bentref ar arfordir gogledd Cymru; am yr ardal ag enw tebyg yng Nghaerdydd, gweler Llys-faen.

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, Cymru, yw Llysfaen.[1][2] Saif ar arfordir gogledd y sir, hanner milltir o'r môr tua hanner ffordd rhwng Abergele i'r dwyrain a Bae Colwyn i'r gorllewin. Mae'r pentrefi cyfagos yn cynnwys Hen Golwyn, Llanddulas, Dolwen a Betws-yn-Rhos. I'r dwyrain ceir Mynydd Marian. Mae tua 2,680 o bobl yn byw yno ([1] Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback. 2005). Mae'r gymuned yn cynnwys stad Peulwys.

Heddiw mae'r pentref yn rhan o sir Conwy, ond hyd 1923 bu'n alldir o'r hen Sir Gaernarfon wedi ei amgylchu'n gyfangwbl gan yr hen Sir Ddinbych; bu'n rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gantref Rhos. Mae eglwys Sant Cynfran yn dyddio i'r Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad lleol fe'i sefydlwyd gan y sant yn y flwyddyn 777.

Am gyfnod hir bu llawer o bobl y pentref yn gweithio yn chwareli calchfaen cyfagos Llysfaen a Llanddulas. Cludai llongau arfordirol y calchfaen i Lerpwl neu Fleetwood o Sieti Rayne ym Mae Llanddulas.

Ceir ysgol gynradd leol, Ysgol Cynfran, siop SPAR, neuad y pentref, a thri pharc.

Eglwys Sant Cynfran[golygu | golygu cod]

Dywedir i'r eglwys gael ei sefydlu gan Sant Cynfran yn 777. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1377 ond mae'n cynnwys meini o'r eglwys gynharach. Yn 1870 cafodd yr eglwys ei adnewyddu'n sylweddol ar gost o £1,950 a chollwyd nifer o baneli pren canoloesol. Mae rhai o'r cofebion yn yr eglwys yn dyddio i'r 17g. Amgylchynir y llan gan wal cerrig a cheir Ffynnon Gynfran tua 100 medr i'r gogledd o'r eglwys.

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,736.[3]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llysfaen (pob oed) (2,743)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llysfaen) (552)
  
21.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llysfaen) (1691)
  
61.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llysfaen) (360)
  
34.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. City Population; adalwyd 25 Mawrth 2024
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]