Llanfair Talhaearn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Elwy yn llifo dan bont Llanfair Talhaearn
Siop y pentre, Llanfair Talhaearn.

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy (yn Sir Ddinbych cynt) yw Llanfair Talhaearn (neu Llanfair Talhaiarn). Mae'n sefyll ar groesffordd y briffyrdd A548 a'r A544, tua 5 milltir i'r de o Abergele.

Rhed Afon Elwy trwy'r pentref sy'n gorwedd rhwng bryniau coediog gyda Moel Unben (358 m) yn sefyll allan i'r de.

Enwir y pentref ar ôl Sant Talhaearn (?6ed ganrif). Yn Eglwys Fair ceir cist fedyddio dan-ddaear.

Priododd Twm o'r Nant ei gariad Elizabeth Hughes yn Eglwys Fair ar 19 Chwefror 1763, mewn gwasanaeth a arweinwyd gan y bardd Ieuan Brydydd Hir, cyfaill Twm, oedd yn gurad y plwyf ar y pryd.

Brodor o Lanfair Talhaearn oedd y bardd John Jones (Talhaiarn), a aned yn Nhafarn yr Harp yn y pentref yn 1810. Ar ôl cyfnod hir oddi cartref dychwelodd i'r pentref a bu farw yn Nhafarn yr Harp yn 1869.

I'r gogledd-orllewin ceir plasdy Garthewin, cartref y Wynniaid a lleoliad theatr Gymraeg arloesol a fu'n llwyfan i berfformiadau cyntaf o rai o ddramâu Saunders Lewis.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: