Llanefydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref, cymuned a phlwyf ym mwrdeistref sirol Conwy (ond yn rhan o Sir Ddinbych cynt) yw Llanefydd (ceir yn ogystal y ffurf Llannefydd) - (cyfeiriad grid SH983706). Mae'n bentref bychan a leolir tua 5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Lanelwy.

Canol pentref Llanefydd

Ceir dau sant ac un santes o'r enw Nefydd, i gyd yn perthyn i linach Brychan o Bowys, ond nid oes sicrwydd pa un ohonynt yw nawddsant y plwyf. Ceir Ffynnon Nefydd 300m o'r eglwys.

Tua milltir i gyfeiriad y gogledd-orllewin ceir Mynydd y Gaer a goronir gan fryngaer.

Enwogion y fro[golygu]

Ceir tystiolaeth ddibyniadwy fod Ithel Goch, tad y bardd enwog Iolo Goch, wedi ymsefydlu ar dir yn Llechwedd a Berain, yn y plwyf, ar ôl gorfod symud o Lewenni, ger Dinbych, mewn canlyniad i bolisi'r awdurdodau Seisnig o orfodi'r Cymry i symud o gyffiniau'r dref honno er mwyn sefydlu Saeson yn eu lle (polisi glanhau ethnig fyddai'r enw amdano heddiw). Mae'n eithaf tebyg y bu gan Iolo Goch ei hun dŷ yn Llechwedd.[1]

Mae'r plwyf yn cynnwys Cefn Berain, lle bu fyw Catrin o Ferain, "Mam Cymru", chwedl ei chyfoeswyr.

Ganwyd yr anterliwtwr enwog Twm o'r Nant ym Mhenparchell Uchaf yn y plwyf yn 1739.

Henebion[golygu]

Mae Crug Moel Fodiar, fel mae'r enw'n ei awgrymu ar Foel Fodiar, rhwng Cefn Berain a Llansannan; dwy km i'r de o Lannefydd. Crug crwn ydy o wedi'i godi gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanefydd (pob oed) (590)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanefydd) (348)
  
60.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanefydd) (441)
  
74.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanefydd) (48)
  
22.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dafydd Johnston, Iolo Goch (Cyfres Llên y Llenor, 1989.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.