Dinbych
Oddi ar Wicipedia
| Dinbych Sir Ddinbych |
|
Mae Dinbych (Saesneg: Denbigh) (Cyfeirnod OS: SJ0566) yn dref hanesyddol yn Sir Ddinbych. 'Caer fechan' yw ystyr ei enw ac ymddengys gyntaf mewn dogfen yn 1211 gyda'r silafiad: 'Dunbeig' ac yna 'Tynbey' yn 1230 a 'Dymbech' yn 1304-5. Ceir Dinbych y Pysgod yn ne Cymru hefyd.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Tua tri-chwarter milltir i ffwrdd i'r de o'r castell presenol y sefydlwyd y gaer yn wreiddiol a hynny ar dir Llywelyn ap Iorwerth a roddodd yn anrheg i'w ferch Gwenllian ac a elwid am flynyddoedd fel 'Llys Gwenllian' (Cyfeirnod OS: SJ06SE1) ac fel 'Hen Ddinbych'; codwyd Castell mwnt a beili yno.[1][2] Yn 1283rhoddodd Edward 1af orchymun i godi'r castell presenol.
[golygu] Enwogion
- Thomas Gee - cyhoeddwr, sefydlwr Gwasg Gee
- Henry Morton Stanley - fforiwr
- Frank Price Jones (1920 - 1975), hanesydd ac awdur
- Kate Roberts - treuliodd y ran olaf o'i hoes yn y dref yn rhedeg Gwasg Gee ac yn llenydda. Bu farw yno yn 1985.
- Ieuan Wyn Jones - gwleidydd Plaid Cymru, a aned yn y dref yn 1949
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych ym 1882, 1939 a 2001. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1882
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1939
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cyfeiriadau
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Gallt Melyd · Glyndyfrdwy · Gwyddelwern · Henllan · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla-yn-Iâl · Llandrillo · Llandyrnog · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Prestatyn · Prion · Rhewl · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion


