Catrin o Ferain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread o Catrin o Ferain, mwy na thebyg gan van Cronenburgh, yr arlunydd o ogledd yr Iseldiroedd. Mae'r benglog yn digwydd yn aml mewn portreadau o'r 16eg ganrif ac yn cynrychioli'r hyn sy'n ein hwynebu ar ddiwedd ein hoes h.y. ein marwoldeb. Cedwir y llun yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Boneddiges o Gymraes oedd Catrin o Ferain[1] (neu Catrin o'r Berain[2] ac weithiau Catrin Tudur[3]) (153427 Awst 1591). Ei llysenw oedd "Mam Cymru", roedd hi'n wyres i Harri VII, brenin Lloegr ac yn ferch ddeallus a phwerus iawn.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Merch Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville (merch Syr Roland de Velville, mab gordderch Harri VII, brenin Lloegr), oedd hi. Roedd hi'n perchen ystadau eang yn Nyffryn Clwyd, yn cynnwys ei phlasdy teuluol yng Nghefn Berain ger Llanefydd, ynghyd â phlas Penmynydd, hen gartref Tuduriaid Môn.

Roedd Catrin yn adnabyddus fel noddwraig y beirdd. Canodd y bardd Wiliam Cynwal iddi fel "cannwyll Gwynedd" mewn cwpled sydd bellach yn enwog. Dyma'r cwpled enwog, wedi'i ddilladu mewn orgraff fodern:

Catrin wych, wawr ddistrych wedd,
Cain ei llun, cannwyll Wynedd.[4]

Priodasau a phlant [golygu]

Priododd bedair gwaith:

  1. Syr Siôn Salsbri o Leweni
  2. Syr Rhisiart Clwch (Richard Clough) o Ddinbych
  3. Maurice Wynn o Wydir
  4. Edward Thelwall o Blas-y-ward, Dinbych
Plant

Cafodd chwech o blant ac un-deg-chwech o wyrion ac wyresau[3]: Dyma'r plant o'r 4 priodas:

  1. Thomas (g. c. 1564), a John (g. 1565 neu 1566)
  2. Anne (g. 1568), a briododd Roger Salusbury, a Mary (g. 1569), a briododd William Wynn, Melai.
  3. Edward, a Jane
  4. dim plant

Marwolaeth [golygu]

Bu farw ar 27 Awst, 1591 ac fe'i claddwyd yn Llanefydd ar y cyntaf o Fedi.

Disgynnydd

Ffuglen [golygu]

Ceir tair nofel hanesyddol nodedig am Catrin a'i hoes gan R. Cyril Hughes, sef:

  • Catrin o Ferain (Gwasg Gomer, 1975)
  • Dinas Ddihenydd (Gwasg Gomer, 1976)
  • Castell Cyfaddawd (Gwasg Gomer, 1984)

Storiau a honiadau amdani [golygu]

Credir fod y bardd William Shakespeare wedi sgwennu soned am ei mab John. Un chwedl leol arall, o ardal Dinbych yw mai Catrin oedd mam William.[5]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 259; R. Cyril Hughes, Catrin o Ferain (1975); Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. Y Llyfrgell Genedlaethol
  3. 3.0 3.1 Gwefan y BBC
  4. Wiliam Cynwal. Dyfynnir gan R. Cyril Hughes ar wynebddalen ei nofel Catrin o Ferain (1975).
  5. The Free Library

Dolennau allanol [golygu]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.