Iolo Goch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwaith Iolo Goch (1915), gydag arfbeisiau Glyndŵr.

Bardd Cymraeg oedd Iolo Goch (tua 1320 - 1398/1400) a ystyrir un o'r cywyddwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol.[1] Roedd yn gyfaill i'r bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Mae'n adnabyddus am ei ganu i'r Tywysog Owain Glyndŵr a'i ddisgrifiad o'i lys.

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Iolo Goch yn nhregordd Lleweni, ym mhlwyf Llanefydd, Dyffryn Clwyd. Dyma ei ach yn ôl llawysgrif Peniarth 127 (c. 1510): Iolo Goch ab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cowryd ap Perfarch ab Iarddur ap Llywelyn ap Meuter Fawr ap Hedd ap Alunog o Uwch Aled. Yn ôl traddodiad enw ei wraig oedd Margred ferch Adda Fychan.[1]

Mae Araith Iolo Goch yn un o destunau mwyaf adnabyddus yr Areithiau Pros, ond mae'n ddiweddarach nag oes y bardd ei hun.[1]

Cerddi[golygu]

Gellid dosbarthu cerddi Iolo Goch yn gerddi mawl a marwnadau, canu serch, cerddi crefyddol a chanu dychan. Cywyddau ac englynion ydynt yn bennaf.

Cerddi mawl[golygu]

'Gwlad Iolo Goch', darlun gan G. Howell-Baker yn ngyfres Ab Owen, Llanuwchllyn, 1915)

Yn ei ganu mawl mae gan Iolo gywyddau i Syr Hywel y Fwyall, Cwnstabl Castell Cricieth, y brenin Edward III o Loegr, meibion Tudur Fychan o Fôn, Syr Rhosier Mortimer, Ieuan Esgob Llanelwy, Dafydd ap Bleddyn (yntau'n esgob Llanelwy hefyd) ac i lys Hywel Cyffin, deon Llanelwy. Yn ogystal canodd dri chywydd arbennig i Owain Glyndŵr, un yn olrhain achau Owain, un arall yn fawl iddo fel arweinydd a'r llall yn moli llys y tywysog yn Sycharth (yn y 1390au neu'r 1380au) lle cawsai Iolo groeso cynnes ar bob ymweliad.[2]

Marwnadau[golygu]

Canodd Iolo farwnadau i Dudur o Fôn a'i feibion, Syr Rhys ap Gruffudd, ac Ithel ap Robert. Yn fwy arbennig, ceir ar glawr dair marwnad bwysig i'r beirdd Dafydd ap Gwilym, Llywelyn Goch ap Meurig Hen ac Ithel Ddu.[2]

Canu serch[golygu]

Cyfansoddodd Iolo Goch ddau gywydd serch. Yr enwocaf ohonyn nhw yw'r gerdd Chwarae Cnau I'm Llaw, sy'n portreadu'r bardd ei hun yn chwarae'n gellweirus â merch ifanc:

Y ferch a wisg yn sientli,
Main ei hael a mwyn yw hi.[2]

Canu dychan[golygu]

Mae Iolo'n adnabyddus hefyd am ei ganu dychan, yn arbennig y gyfres o gywyddau i fynachod, ei gyd-feirdd Hersdin Hogl a'r Gwyddelyn, a'r eglwyswr Madog ap Hywel.[2]

Cywydd y Llafurwr[golygu]

Dyma'r enwocaf o gerddi Iolo, mae'n debyg. Mae'n gerdd a ddyfynir yn aml am ei disgrifiadau bachog o ormes y cyfoethogion ar draul y tlodion, a gynrychiolir gan y Llafurwr, ac am ei naws genedlaetholgar.

Llyfryddiaeth[golygu]

Testunau
  • D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Y golygiad safonol diweddaraf o waith y bardd, gyda rhagymadrodd a nodiadau.
  • Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (gol.), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350-1450 (Bangor, 1925; ail arg. Caerdydd, 1937)

O ddiddordeb hanesyddol yn unig erbyn hyn yw golygiad T. Mathews:

Astudiaethau
  • Dafydd Johnston, Iolo Goch (Caerdydd, 1989). Arolwg o waith Iolo yn y gyfres Llên y Llenor.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Rhagymadrodd.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988).