Henry Lewis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgolhaig Cymreig oedd Henry Lewis (21 Awst 1889 - 14 Ionawr 1968).

Ganed ef yn Ynystawe yn yr hen Sir Forgannwg. Graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, lle bu'n astudio dan Syr John Rhys. Bu'n athro ysgol yn Ystalyfera a Llanelli, yna yn y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wedi'r rhyfel, daeth yn is-ddarlithydd yn adran y Gymraeg yng Ngaerdydd, cyn cael cadair y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Abertawe yn 1921, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad yn 1954.

Bu'n olygydd Cyfres y Brifysgol a'r Werin am gyfnod, a chyfieithodd Brenin yr Ellyllon gan Gogol i'r gyfres.

Cyhoeddiadau [golygu]

  • Llawlyfr Llydaweg Canol (1922)
  • Chwedleu seith doethon Rufein (1925)
  • Cywyddau Iolo Goch ac eraill (1925)
  • Llawlyfr Cernyweg Canol (1928)
  • Mynegai i farddoniaeth y llawysgrifau (1928, gyda Elizabeth J. Louis Jones)
  • Delw y byd (1928, gyda Pol Diverres)
  • Datblygiad yr iaith Gymraeg (1931)
  • Hen gerddi crefyddol (1931)
  • A Concise Comparative Celtic Grammar (1937, cyfeithiad o Vergleichende Grammatik der Keltischen Sprachen gan Holgar Pedersen
  • Brut Dingestow (1942)
  • The Sentence in Welsh (1942)
  • Hen gyflwynadau (1948)
  • Morgannwg Matthews Ewenni (1953)
  • Yr elfen Ladin yn yr iaith Gymraeg (1961)