Lewys Daron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd proffesiynol o Ben Llŷn a ganai yn hanner cyntaf yr 16eg ganrif oedd Lewys Daron (fl. tua 1495 - tua 1530). Er nad yw'n cyfrif fel un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr, mae ei waith yn ddrych i fywyd cymdeithasol gogledd-orllewin Cymru ar ddechrau cyfnod y Tuduriaid.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ar sail ei enw a chyfeiriad ato mewn llawysgrif yn llaw Thomas Wiliems, gellir derbyn yn bur hyderus fod Lewys yn enedigol o Aberdaron. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys. Ni wyddom nemor dim arall amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Roedd yn adnabod Lewys Môn, un o feirdd mawr y cyfnod, a cheir traddodiad am ymryson barddol rhwng y ddau fardd. Bu farw tua dechrau'r 1530au, yn ôl pob tebyg, a chafodd ei gladdu yn Nefyn.[1]

Cerddi[golygu]

Cyfyngir cylch clera Lewys Daron i deuluoedd uchelwrol Arfon, Meirionnydd, Eifionydd a Llŷn. Diogelir wyth ar hugain o'i gerddi yn y llawysgrifau, yn awdlau a chywyddau. Roedd ei noddwyr yn cynnwys y Stradlingiaid a theulu Phenrhyn, a theuloedd ystadau Bodfel, Bodeon, Glynllifon, Carreg, Cwchwillan, Plas Iolyn ac eraill. O ddiddordeb mawr i haneswyr llenyddiaeth Gymraeg yw ei farwnad i'r bardd mawr Tudur Aled (m. 1526).[1]

Cedwir ambell gerdd ysgafnach o waith y bardd hefyd, yn cynnwys cywydd i "ofyn main melin gan dair gwraig o Fôn dros Fair o Nefyn" a chywydd difyr yn gofyn march gan Ddafydd, Prior Priordy Beddgelert dros Syr John Wynn o Wydir, sy'n llawn o fanylion am y fro honno. Canodd hefyd i Pîrs Conwy, Archddiacon Llanelwy.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 A. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron. Rhagymadrodd.