Rhys ap Tudur (bardd)

Oddi ar Wicipedia
Rhys ap Tudur
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg canoloesol oedd Rhys ap Tudur (bl. canol y 14g). Mae'n debygol yr oedd yn frodor o Fôn ond ychydig a wyddom amdano.

Un gerdd yn unig o waith Rhys ap Tudur a gedwir ar glawr, sef cywydd serch i fis Mai yn null Dafydd ap Gwilym. Gwyddom am uchelwr o Fôn yn y 14g o'r enw Rhys ap Tudur, aelod o deulu grymus ar yr ynys, a folir gan y bardd Gruffudd Gryg mewn cywydd sy'n awgrymu fod Rhys yntau yn awdur cerddi serch. Ond does dim modd o gwbl i brofi yn derfynol uniaethiad yr uchelwr o Fôn ac awdur y gerdd hon.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Rhys ap Tudur', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).