Edward Urien

Oddi ar Wicipedia
Edward Urien
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuoddc. 1580, 1614 Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Edward Urien (bl. tua 15801614). Yn ôl pob tebyg roedd yn frodor o gyffiniau Dinas Mawddwy a Mallwyd, de Gwynedd.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Edward Urien yn un o ddisgyblion barddol Rhys Cain a chedwir marwnad iddo gan y bardd hwnnw. Mae ei ganu i gyd yn gysylltiedig â chyffiniau Mawddwy, yn cynnwys cywydd i'r Dr John Davies, a gellir derbyn ei fod yn frodor o'r ardal honno. Canodd sawl cywydd ond roedd yn grefftwr arbennig ar yr awdl, a hynny mewn cyfnod pan fu dirywiad ac esgeulustod cyffredinol o'r mesur hwnnw. Mae ei waith yn cynnwys cywydd nodedig ar thema anghyffredin, 'I gysuro merch ddall', i ferch o'r enw Lowri.[1]

Erys trwch gwaith Edward Urien heb ei gyhoeddi (2010).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • 'I gysuro merch ddall', yn Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, gol. Nesta Lloyd (Cyhoeddiadau Barddas, 1993), rhif 15.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, tud. 325.