Ieuan ap Huw Cae Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o Feirdd yr Uchelwyr a fu yn ei flodau yn ail hanner y 15fed ganrif oedd Ieuan ap Huw Cae Llwyd (fl. tua 1470 - ar ôl 1500). Roedd yn fab i'r prydydd Huw Cae Llwyd.

Ychydig a wyddys am y bardd yn uniongyrchol. Credir iddo gael ei eni ym Mrycheiniog rywbryd ar ôl i'w dad symud yno o Feirionnydd yn 1456, efallai yn y 1460au.

Nid oedd cystal bardd â'i dad, a dim ond dyrnaid o gerddi ganddo sydd wedi goroesi. Cyfaddefodd ef ei hun nad oedd yn fardd mawr:

Prydydd fu'n cael parodwin
Ydwyf, a hen grofen grin,
Ieuan ap Huw, hen gyw gwan,
Ydwyf, ieithydd dof weithian;
Yn fugail geifr a heifrod,
Meddwn, y mynnwn 'y mod.

Ymddengys iddo ddysgu ei grefft gan ei dad. Ond awdlau yw hanner ei gerddi, a digon prentisaidd ar hynny, tra roedd ei dad yn feistr ar y cywydd. Canodd awdlau i'r Forwyn Mair ac i'r Drindod, a chywyddau i Aberhonddu a merch. Ceir ei waith gorau efallai yn ei gywydd i eifr Dyffryn Hodni, sy'n llawn dychymyg a gyda nodyn o brofiad personol yn ei ddisgrifiad o'r tirlun.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953).