Einion Offeiriad

Oddi ar Wicipedia
Einion Offeiriad
Bu farw1356 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Clerigwr a bardd y priodolir iddo'r cynharaf o ramadegau'r beirdd oedd Einion Offeiriad (fl. tua 1300 - m. 1349). Ef yw awdur tybiedig Gramadeg Einion Offeiriad, sy'n un o'r enghreifftiau cyntaf a wyddys i ddifinio rheolau'r pedwar mesur ar hugain.

Ei fywyd[golygu | golygu cod]

Dim ond yn yr 17g y ceir y cyfeiriad cyntaf ato fel awdur y gramadeg hwn, a hynny gan yr hynafiaethydd a chopïwr llawysgrifau Robert Vaughan o Hengwrt, Meirionnydd. Mewn nodyn ar un o'r llawysgrifau sy'n cynnwys testun y gramadeg, fe'i gelwir yn:

'Llyfr Kerddwriaeth a wnaeth Einion Effeiriad o Wynnedd i Syr Rys ap Gruff.[udd] ap Howel ap Gruff. ap Ednyfed Vychan yr ynrydedd a moliant iddo ef.'

Ceir pedwar cofnod canoloesol at un 'Einion Offeiriad', i gyd o hanner cyntaf y 14g, ac mae'n bur debygol eu bod yn cyfeirio at awdur y gramadeg. Cofnodir iddo fod yn wrthrych mewn cwest yn rhinwedd ei swydd fel rheithor plwyf Llanrug yn Arfon yn 1349, ac fe ymddengys iddo farw o'r Pla Du yn y flwyddyn honno.

Ei waith[golygu | golygu cod]

Seiliodd Einion ei ramadeg ar weithiau Lladin cyffelyb a briodolir i Donatus (Cymraeg Canol: Dwned) a Priscian. Mae'n debyg iddo gael ei gyfansoddi tua'r flwyddyn 1320. Dadansoddiad, mynegiad o farn yr awdur a'i gymeradwyaeth o ffurfiau llenyddol newydd, yn hytrach na llawlyfr awdurdodol, yw'r gramadeg. Mae'n cynnwys nifer o gerddi enghreifftiol o waith y beirdd ac, efallai, rhai gan yr awdur ei hun.

Yr unig enghraifft o'i gerddi o awduraeth sicr sydd wedi goroesi yw awdl i'w noddwr Syr Rhys ap Gruffudd o Lansadwrn (c. 1283-1356). Mae'n bur debygol fod nifer o'r cerddi dienw yn ei Ramadeg yn waith Einion yn ogystal. Dyma un ohonynt, i ferch anhysbys anwadal ei serch:

Un dwyll wyt o bwyll, o ball dramwy—hoed,
 hud mab Mathonwy;
Unwedd y'th wneir â Chreirwy,
Enwir fryd, rhyhir frad rhwy.'

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • R. Geraint Gruffudd a Rhiannon Evans (gol.), Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug (Aberystwyth, 1997). Testunau cerddi'r bardd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]