Cadwaladr Cesail

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg o Eifionydd, Gwynedd, oedd Cadwaladr Cesail (bl. 1610 - 1625), neu Cadwaladr Gruffudd mewn rhai ffynonellau. Roedd yn perthyn i gyfnod olaf traddodiad Beirdd yr Uchelwyr yng ngogledd-orllewin Cymru.

Ychydig a wyddom am ei hanes personol. Mae ei enw barddol yn dangos cysylltiad â phlasdy hynafol Y Gesail Gyfarch, Penmorfa, yn Eifionydd ond does dim sicrwydd a oedd yn un o deulu'r Gesail neu beidio. Canodd farwnad i Elis Wyn o'r Gesail Gyfarch yn 1624.

Roedd yn fardd o fri yn ei oes a chedwir tua hanner cant o'i gerddi yn y llawysgrifau, yn awdlau, cywyddau ac englynion. Maent i gyd yn gerddi mawl i uchelwyr lleol ardal Eifionydd, sy'n awgrymu ei fod yn fardd proffesiynol yn hytrach nac uchelwr yn "canu ar ei fwyd ei hun." Canodd i deuluoedd Bryncir, Meillionen, Cefnllanfair, Pengwern (Meirionnydd), Glynllifon a Gwydir. Ceir rhai englynion 'smala ei naws, e.e. un i gi hela gŵr lleol o'r enw Ieuan Tew:

Mae ci gennyt ti I'an Tew—min gerwin,
Mae'n gorwedd ar lwydrew;
Gwaeth yw dy gi nag Iddew,
Gwaeth na'r ci wyt ti, I'an Tew.

Ei gerdd fwyaf nodedig efallai yw 'Marwnad Marged, gwraig Siôn Bodwrda' (1623), sy'n cynnwys cyfeiriad diddorol at y cymeriad chwedlonol Olwen.

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Gwaith y bardd

  • Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, cyfrol 1 (Cyhoeddiadau Barddas, 1993). Testun 'Marwnad Marged, gwraig Siôn Bodwrda', gyda nodiadau.

[golygu] Ysgrif amdano

  • William Rowland, Gwŷr Eifionydd (Gwasg Gee, 1953). Pennod III: 'Cadwaladr Cesail'.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer