Gruffudd ap Dafydd ap Tudur

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd ap Dafydd ap Tudur
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1300 Edit this on Wikidata

Roedd Gruffudd ap Dafydd ap Tudur (fl. 1300) yn un o'r Gogynfeirdd diweddar. Mae ei ganu yn sefyll yn y bwlch rhwng gwaith Beirdd y Tywysogion a chanu Beirdd yr Uchelwyr.

Ei hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r cwbl a wyddys amdano yn deillio o dystiolaeth ei gerddi. Dywed mai Môn yw ei gynefin ond cyfeiria hefyd at Sir Gaernarfon fel ei fro, gan leoli ei hun uwch Caer Rhun. Lleolir un o'i gerddi yn Abergwyngregyn yn Arllechwedd. Mae tystiolaeth arall ganddo yn dangos ei fod yn clera yn esgobaeth Llanelwy a Sir Ddinbych yn ogystal.

Mae'r cyfeiriadau at Sir Gaer Arfon yn dangos ei fod yn canu ar ôl creu'r sir newydd honno yn 1284 a chyfeiria hefyd at 'unfed flwyddyn ar ddeg oed y brenin', sy'n ei osod naill ai yn 1283 (Edward I o Loegr) neu 1318 (Edward II o Loegr). Mae'n cyfeirio hefyd at Lywelyn ap Gruffudd fel y naf a gollais, sy'n awgrymu ei fod wedi canu i Dywysog Cymru ei hun; awgrym a ategir gan ei gerdd i ferch anhysbys yn Abergwyngregyn, lleoliad un o lysoedd pwysicaf Llywelyn.

Llawysgrifau[golygu | golygu cod]

Mae testunau cynharaf ei bum cerdd ar gael mewn un bloc yn Llyfr Coch Hergest (tua 1400). Daw'r copïau diweddarach i gyd o'r ffynhonnell honno.

Cerddi[golygu | golygu cod]

Dim ond pump o gerddi sydd wedi goroesi ond mae'n sicr fod nifer o gerddi eraill ar goll. Cerddi gydag elfen serch o ryw fath ydyn nhw i gyd ac eithrio un awdl grefyddol i Gedig Sant. Mae ganddo gerdd i ofyn bwa gan ŵr o'r enw Hywel a gysylltir â Llanelwy; dyma'r cynharaf o'r cerddi gofyn sydd ar glawr. Mae'r tair cerdd arall yn enghreifftiau o'r math o ganu serch a elwir yn Rhieingerddi. Diolch am wregys ei gariad mae'r bardd mewn un gerdd. Cwyn i 'ferch fud' sy'n gwrthod ymateb i'w negeseuon yw'r nesaf. Yn olaf ceir cerdd i gwyno ei serch i ferch o Abergwyngregyn, sy'n cynnwys ymddiddan rhwng y bardd a'r ferch. Mae hon yn gerdd arbennig o ddiddorol am ei gyfeiriad at Lywelyn Ein Llyw Olaf yng 'ngheindref Aber' 'yng nghymwd pennaf Arllechwedd Uchaf' fel y 'naf (arglwydd)' a gollodd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Golygir gwaith y bardd gan Dafydd Johnston yn:

  • N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)