Iocyn Ddu ab Ithel Grach

Oddi ar Wicipedia
Iocyn Ddu ab Ithel Grach
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1380 Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Iocyn Ddu ab Ithel Grach (bl. ail hanner y 14g).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ni wyddom dim gyda sicrwydd am y bardd. Cofnodir gŵr o'r enw Iocyn Ddu mewn arolwg o Arglwyddiaeth Dinbych a wnaed yn 1334, ond ni ellir profi mae'r bardd a olygir er bod yr enw yn bur anghyffredin. Ategir y posiblrwydd hwnnw fodd bynnag gan y ffaith fod yr unig gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi yn ymwneud â lleoedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru.[1]

Cerdd[golygu | golygu cod]

Er mai dim ond un gerdd a gedwir o waith Iocyn Ddu, mae hi o ddiddordeb mawr i haneswyr llenyddiaeth Gymraeg. Awdl sy'n disgrifio taith clera ydyw'r gerdd. Mae'n llawn hiwmor ac yn disgrifio profiadau annymunol y clerwr wrth iddo grwydro o dŷ i dŷ yn ceisio nawdd a gorfod byw ar weddillion bywyd pobl eraill, chwydu oherwydd salwedd y bywyd ac ymgreinio am nawdd: mae'n debyg fod tafod y bardd yn ei foch wrth ganu fel hyn ac mae fel adloniant y bwriedwyd y gerdd, er ei bod yn ddisgrifiad cofiadwy o gylch y beirdd crwydrol israddol a elwir yn Glêr.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Iocyn Ddu ab Ithel Grach', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Iocyn Ddu ab Ithel Grach'.