Hillyn

Oddi ar Wicipedia
Hillyn
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Ceredigion Edit this on Wikidata
Man preswylLlangeitho Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd14 g Edit this on Wikidata

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Hillyn (bl. ail chwarter y 14g).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddom am y bardd. Canai i Ieuan Llwyd o Is Aeron, Ceredigion yn ail chwarter y 14g. Llysenw neu enw barddol yw 'Hillyn',o darddiad ansicr; o'r ansoddair hyll, efallai. Er bod y cerddi ganddo sydd ar glawr yn ei gysylltu ag ardal Llangeitho, Ceredigion, ceir awgrym mewn un o'i gerddi ei fod yn enedigol o Ynys Môn.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Cedwir y tair cerdd o waith y bardd sydd ar glawr heddiw yn Llawysgrif Hendregadredd. Ceir dau fawl i Ieuan Llwyd a cherdd i ddathlu codi tŷ newydd ganddo.[1]

Mewn ffynonellau diweddarach cymysgir Hillyn a Heilyn Fardd (neu Hywel Heilyn), brudiwr o Fôn (neu fardd dychmygol y priodolir cerddi iddo yn y canu darogan), ond mae'r cerddi wrth enw Heilyn Fardd yn fwy diweddar ac yn perthyn i ganol y 15g, yn ôl pob tebyg.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). ISBN 0-947531-39-4

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996). Rhagymadrodd.