Maredudd ap Rhys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd o Bowys oedd Maredudd ap Rhys (bl. tua 1450/60 - 1483). Roedd yn frodor o ardal Mathrafal ym Maldwyn.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Gŵr o dras parchus oedd y bardd, yn perthyn i'r un llinach â Dafydd ab Edmwnd, un o feirdd mawr y ganrif. Ymddengys nad oes sail i'r traddodiad ei fod yn athro barddol i Ddafydd.[2] Priododd Angharad ferch Madog o Gristionydd a chawsont ddau blentyn, mab o'r enw Siôn a merch.[3]

Cerddi[golygu]

Cedwir tua deugain o gywyddau Maredudd mewn llawysgrifau. Mae'r rhain yn cynnwys cywyddau brud, cerddi gofyn a diolch a cherddi mawl i uchelwyr lleol.[4]

Mewn un o'i gerddi ceir cyfeiriad at draddodiad fod Madog ab Owain Gwynedd, yr honnid yn nes ymlaen ei fod wedi darganfod yr Amerig ar ddiwedd y 12fed ganrif, wedi hwylio i'r moroedd. Mae'r cywydd yn diolch i uchelwr lleol ar ran un o noddwyr Maredudd am roi rhwyd pysgota iddo. Dyma'r ddau gwpled sy'n cyfeirio at Fadog:

Madog wych, mwyedig wedd,
Iawn genau Owain Gwynedd,
Ni fynnai dir, f'enaid oedd,
Na da mawr ond y moroedd.[5]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Enid Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion.
  2. Enid Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion.
  3. Enid Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion.
  4. Enid Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion.
  5. Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion, cerdd 8.43-6.