Madog ab Owain Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Mae rhai yn ystyried fod yr olion amddiffynfeydd pridd yn "Devil's Backbone" ar yr Afon Ohio yn waith Madog a'i ŵyr

Roedd Madog ab Owain Gwynedd, yn ôl y chwedl, yn fab i Owain Gwynedd, brenin Gwynedd, a hwyliodd i gyfandir America tua 1170 ac ymsefydlu yno, dros dri chan mlynedd cyn mordaith gyntaf Christopher Columbus yn 1492. Nid yw ysgolheigion yn credu bod unrhyw sail hanesyddol i'r chwedl bellach, ond bu'n ddylanwadol iawn ar un adeg.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Y chwedl yw fod Madog a'i frawd Rhirid, wedi blino ar yr ymladd parhaus yng Nghymru'r 12g, wedi hwylio ymaith yn ei long Gwenan Gorn. Wedi darganfod gwlad yn y gorllewin, dychwelasant i Gymru i gasglu pobl oedd yn awyddus i ymsefydlu yn y wlad newydd, a hwylio ymaith eto.

Yn dilyn cyngor gan y Frenhines Elisabeth I o Loegr, rhoddodd y gwyddonydd cyfrin John Dee bapurau at ei gilydd a oedd yn ceisio hawlio de America fel eiddo i Goron Lloegr, a hynny'n seiliedig ar y chwedl hon. Roedd Dee o dras Cymreig ac yn honni ei fod yn gwybod hanes Madog.

Yn ddiweddarach dechreuodd straeon gylchredeg am lwyth y Mandan yng ngogledd America, yn haeru eu bod yn siarad Cymraeg ac yn ddisgynyddion i'r Cymry a deithiodd i America gyda Madog. Teithiodd John Evans o'r Waunfawr yng Ngwynedd i fyny Afon Missouri i chwilio am y Mandan ddiwedd y 18g. Cafodd hyd iddynt, ond ni chanfu unrhyw arwydd o eiriau Cymraeg yn eu hiaith.

Ffynonellau'r chwedl[golygu | golygu cod]

Roedd gan Owain Gwynedd gryn nifer o feibion; priododd ddwywaith a bu ganddo nifer o feibion gordderch hefyd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gofnod o'i oes ef ei hun fod ganddo fab o'r enw Madog.

Does dim cyfeiriad at Fadog yn darganfod yr Amerig yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Fodd bynnag, ceir cyfeiriad at draddodiad fod Madog yn un o feibion Owain Gwynedd a'i fod wedi hwylio i'r moroedd mewn cywydd gan y bardd Maredudd ap Rhys (fl. 1450-83) o Bowys. Mae'r cywydd yn diolch i uchelwr lleol ar ran un o noddwyr Maredudd am roi rhwyd pysgota iddo. Dyma'r ddau gwpled sy'n cyfeirio at Fadog:

Madog wych, mwyedig wedd,
Iawn genau Owain Gwynedd,
Ni fynnai dir, f'enaid oedd,
Na da mawr ond y moroedd.[1]

Mae modd deall y gair '[c]enau' (iawn genau) mewn sawl ffordd. Gallai olygu 'mab' ond gallai hefyd olygu 'disgynydd' neu hyd yn oed 'aelod o osgordd (y brenin)'. Beth bynnag am hynny, mae'r cyfeiriad, a hynny mewn cerdd o'r cyfnod cyn oes y Tuduriaid nad yw yn ceisio sefydlu chwedl am Fadog, yn profi bod traddodiad yn cylchredeg yng Nghymru fod Madog - pwy bynnag ydoedd - wedi hwylio i'r môr gan droi ei gefn ar ei hawl i dir a chyfoeth, efallai. Cofier hefyd fod chwedlau am arwyr yn hwylio ar fordeithiau i ynysoedd dirgel i'w cael ym mytholeg y Celtiaid, e.e. Immram Brain ("Mordaith Bran") yn Iwerddon am yr arwr Bran yn hwylio i ynys hud Emain Ablach. Ond nid yw'r cyfeiriad gan Faredudd ap Rhys yn profi bodolaeth chwedl am Fadog yn darganfod yr Amerig.

Madog mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae chwedl Madog wedi ysbrydoli nifer fawr o weithiau llenyddol, yn farddoniaeth a nofelau. Dwy enghraifft yw'r gerdd Saesneg Madoc gan Robert Southey, ac yn Gymraeg Madog gan T. Gwynn Jones. Ysgrifennodd David Samwell, meddyg The Discovery dan y Capten James Cook, ei gerdd ddychanol The Padouca Hunt (cyhoeddwyd 1799), a fu'n enwog yn ei dydd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • David Williams (1963) John Evans a chwedl Madog (Gwasg Prifysgol Cymru)
  • Gwyn A. Williams (1979) Madog: the making of a myth (Eyre Methuen) ISBN 0-413-39450-6

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Enid Roberts, Gwaith Maredudd ap Rhys a'i gyfoedion (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth, 2003), cerdd 8.43-6.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]