Siôn Cent

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Siôn Cent
Sion Cent.JPG
Engrafiad o lun tybiedig o'r bardd.
Ganwyd Tua diwedd y 14eg ganrif.
Brycheiniog (efallai).
Bu farw Tua chanol y 15fed ganrif.
Cenedligrwydd Cymro
Galwedigaeth Bardd
Gweithgar Hanner cyntaf y 15fed ganrif

Bardd a ganai ar bynciau crefyddol a chymdeithasol oedd Siôn Cent (fl. c.1400 - 1430/45). Ar lawer cyfrif rhaid ei ystyried yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr ei gyfnod, ond ar yr un pryd y mae'n sefyll ar wahân iddynt. Canai ar fesur y cywydd. Ceir nifer o gerddi a briodolir iddo yn y llawysgrifau Cymraeg ond anodd gwybod a yw'r awduraeth yn ddilys yn achos y mwyafrif o'r testunau hyn. Cedwir llun y credid unwaith mai Siôn Cent ei hun ydoedd ym mhlas Llan-gain, Swydd Henffordd.

Cefndir[golygu]

Ychydig a wyddys am y bardd y cyfeirir ato yn y ffynonellau llawysgrifol fel Siôn Cent neu Siôn y Cent. Ar sail ei gywydd moliant i Frycheiniog, y mae'n deg ei gysylltu â'r parthau hynny - o leiaf, ar un adeg yn ei fywyd - er nad oes unrhyw dystiolaeth mai oddi yno yr hanoedd yn wreiddiol:

Brycheiniog, bro wych annwyl,
Brychan dir, lle gwelir gŵyl.
Brychan wlad dyfiad dwyfawl,
Braich Duw i'th gadw rhag broch diawl.[1]

Er y ceir traddodiadau sy'n cysylltu Siôn Cent â Rhos ar Wy a Kentchurch yn Swydd Henffordd, y mae'n bwysig nodi bod tystiolaeth i glerigwyr a gyfenwid hwythau yn 'Kent', ond a berthynai i genhedlaeth hŷn na'r bardd Cymraeg. Fodd bynnag, cyfeirir at 'Ysgubor Siôn Cent' a 'Derwen Siôn Cent' ym mharc plasdy y teulu Scudamore yn Kentchurch, ac fe dybir bod cysylltiad rhwng y Scudamoriaid ac Owain Glyndŵr.

Credai Saunders Lewis fod Siôn wedi graddio ym Mhrifysgol Rhydychen ac i'r athronydd Roger Bacon ddylanwadu arno.

Canu[golygu]

Ymddengys fod Siôn Cent wedi canu o leiaf ddwy gerdd yn erbyn y beirdd. Un ohonynt sydd wedi goroesi, a hynny mewn dwy ffurf bur wahanol. Cywydd yw hwn, ac fe ymosodir ynddo ar gam-ddefnydd o'r Awen gan feirdd y Gyfundrefn Farddol, a haerir ymhellach mai dwy Awen sydd: y naill yn tarddu oddi wrth Dduw ei hun, a'r llall o'r "ffwrn natur uffernawl". Cyhuddir y beirdd gan Siôn Cent o ganu'n 'gelwyddog' am eu bod yn dilyn traddodiad eu crefft farddol drwy foli Uchelwyr â gormodiaith ddibrin, gan anwybyddu'n llwyr eu hanghyfiawnderau a'u gormes ar y tlodion. Dechreubwynt oedd hyn i hir ddadl ynghylch swyddogaeth yr Awen ac union rôl y beirdd hwythau yn y gymdeithas y perthynent iddi. Gwelir hyn egluraf, efallai, yn ymryson barddol Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal ar droad yr 17eg ganrif. Ymatebwyd her Siôn Cent mewn cywydd gan Rhys Goch Eryri, cyfoeswr iddo, yn amddiffyn tarddiad dwyfol Awen y beirdd. Er y cyfeirir weithiau at y cerddi hyn fel ymryson barddol, nid ydynt yn dilyn patrwm confensiynol yr ymryson (ond fe all, wrth reswm, fod testunau eraill a gollwyd).

Elfen amlwg yng ngwaith Siôn Cent yw'r pwyslais ar 'Wagedd ac Oferedd y Byd' (sef y teitl a roddwyd gan Ifor Williams, golygydd canon Siôn, i un o'i gerddi mwyaf trawiadol). Mewn un adran mae'n pentyrru cwestiynau rhethregol am rwysg y byd darfodedig:

Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
Mae'r llysoedd aml? Mae'r lleisiad?
Mae'r tai cornogion? Mae'r tir?
Mae'r swyddau mawr, os haeddir?
Mae'r trwsiad aml? Mae'r trysor?
Mae'r da mawr ar dir a môr?
A'r neuadd goed newydd gau,
A'r plasoedd, a'r palisau?[2]

Dadleuwyd bod elfen fywgraffyddol yn y cerddi o waith Siôn Cent ar destunau megis y Saith Bechod Marwol ac Edifeirwch, ond rhaid nodi bod y rhain yn dopos, neu deip o gerdd, a arferid gan y beirdd yn enwedig yn ystod dau brif gyfnod penydiol blwyddyn yr Eglwys, sef Adfent a'r Grawys. Ceir enghreifftiau tebyg i hyn mewn cannoedd o gerddi cyffelyb:

Annoeth rwyf, heb ofn na thranc,
Fy mywyd tra fûm ieuanc ;
Camgerdded bedw a rhedyn,
A choed glas yn uched glyn.[1]

Y mae arddull Siôn yn syml a llawer llai addurnedig na gwaith y rhan fwyaf o'i gyfoeswyr. Y mae'n hoff o ailadrodd i daro'r neges adref, yn chwarae â geiriau, yn defnyddio diarhebion, ac yn llunio gwrthgyferbynnau trawiadol.

Cysylltir sawl cywydd brud ag enw Siôn yn ogystal, ond mae dilysrwydd eu hawduraeth yn ansicr. Yr unig gerdd o naws frudiol sydd efallai'n waith y bardd yw'r cywydd a adnabyddir wrth ei llinell gloi enwog "Gobeithiaw a ddaw ydd wyf". Ynddo ceir Siôn yn atgoffa'r Cymry o'u gorffennol anrhydeddus: Pennaf nasiwn, gwn gwmpas, / Erioed fuom ni o dras — ac yn gresynu ynghylch ei chyflwr presennol, gan obeithio y daw'r dydd pryd y gwelir dyfodiad y Mab Darogan.

Traddodiadau[golygu]

Tyfodd nifer o chwedlau a thraddodiadau am Siôn Cent. Fe'i hystyrid yn fath o ddewin, yn fynach, yn Lolard chwyldroadol, ac


ddoethur mawr. Y mae lle i gredu bod cof amdano dros Glawdd Offa mewn traddodiad llên gwerin a geir mewn drama o'r enw John a Kent and John a Cumber (diwedd yr 16eg ganrif).

Llyfryddiaeth[golygu]

Testunau
  • Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (arg. cyntaf: Bangor, 1925, ail arg.: Caerdydd, 1937).
Astudiaethau
  • Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (arg. cyntaf: Bangor, 1925), cxxxvi–clxvii, 237–87; (ail arg.: Caerdydd, 1937), lxii–lxxx, 251–98
  • D.J. Bowen, `Siôn Cent a'r ysgwieriaid', Llên Cymru xxi (1998), 8–37
  • Andrew Breeze, `Llyfr durgrys', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxxiii (1986), 145
  • ______. `Siôn Cent, the Oldest Animals and the Day of Man's Life', ibid. xxxiv (1987), 70–6;
  • ______. `Llyfr Alysanna', ibid. xxxvii (1990), 108–11
  • M. Paul Bryant-Quinn, ‘ “Trugaredd mawr trwy gariad”: golwg ar ganu Siôn Cent’, Llên Cymru xxvii (2004), 71–85
  • ______. `Chwedl Siôn Cent', Cof Cenedl XX, gol. Geraint H. Jenkins (2005), tt. 1–31
  • Dafydd Johnston, Llên yr Uchelwyr (gw. Mynegai, ‘Siôn Cent’)
  • Bobi Jones, I'r Arch (Llandybïe, 1959), 70–84
  • Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (ail arg. Caerdydd, 1986), 102–114
  • ______. `Siôn Cent', Meistri a'u Crefft, gol. Gwynn ap Gwilym (Caerdydd, 1981), 148–160
  • A.T.E. Matonis, `Late Medieval Poetics and Some Welsh Bardic Debates', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxix (1982), 635–65
  • D. Densil Morgan, `Athrawiaeth Siôn Cent', Y Traethodydd cxxxviii (1983), 13–20
  • Jean Rittmueller, `The Religious Poetry of Siôn Cent' (M.Phil. [National University of Ireland], 1977)
  • ______. `The Religious Poetry of Siôn Cent', Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, iii, ed. John Koch and Jean :Rittmueller (Cambridge, Massachusetts, 1983), 107–47
  • E.I. Rowlands, `Religious Poetry in Late Medieval Wales', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxx (1982), 1–19
  • G.E. Ruddock, `Siôn Cent', A Guide to Welsh Literature 1282–c. 1550: Volume 2, ed. A.O.H. Jarman and Gwilym Rees Hughes, revised by Dafydd Johnston (Cardiff, 1997) 151–69
  • ______. `Dau rebel', Barn, 303 (1988), 29–33
  • Gwyn Thomas, `Siôn Cent a Noethni'r Enaid', Gair am Air: Ystyriaethau ar Faterion Llenyddol (Caerdydd, 2000), 40–57

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ail arg. 1937), tud. 256.
  2. Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ail arg. 1937), tud. 290.