Gutun Owain
Oddi ar Wicipedia
Bardd ac uchelwr o Gymro a gyfrifir yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr yn y 15fed ganrif oedd Gutun Owain neu Gruffudd ap Huw ab Owain (fl. tua 1425 - 1498). Roedd yn frodor o blwyf Llandudlyst-yn-y-Traean yn argwlyddiaeth Croesoswallt (Swydd Amwythig), ardal Gymraeg ei hiaith a fu'n rhan o deyrnas Powys ar un adeg.
Mae'r cerddi cynharaf ganddo sydd ar glawr i'w dyddio i ddechrau'r 1460au, ond ceir tystiolaeth iddo fod yn bresennol yn Eisteddfod Caerfyrddin tua 1450 gyda'i athro barddol Dafydd ab Edmwnd. Mae'r testunau cynharaf o'r gramadegau barddol sy'n cynnwys trefniant newydd ei athro ar y Pedwar Mesur ar Hugain yn llaw Gutun Owain ei hun.
Copïodd Gutun sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol, yn cynnwys copïau o'r croniclau Brenhinedd y Saeson a Brut Tysilio a geir rhwng cloriau Llyfr Du Basing. Ceir yn ogystal sawl testun achyddiaeth ac roedd yn cael ei ystyried yn un o'r awdurdodau pennaf y cyfnod ar herodraeth ac achau'r Cymry.
Mewn un o lawysgrifau Mostyn, a adnabyddir fel 'Mostyn 88', ceir y testun cynharaf o Fuchedd Sant Martin, o waith John Trefor II, Esgob Llanelwy, efallai, a gopïwyd gan Gutun Owain yn 1488 neu 1489. Ceir bucheddau eraill yn llaw Gutun hefyd, ynghyd â sawl testun meddygol a seryddol.
Mae'r gweithgarwch hwn yn dyst i ddysg a diddordebau eang Gutun Owain, ond fel bardd y cofir amdano yn bennaf heddiw. Cadwyd dros hanner cant o gerddi ganddo, yn gywyddau, awdlau ac englynion. Cerddi mawl a marwnadau i uchelwyr ym Maelor (Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg) a Swydd y Waun ydynt yn bennaf. Fe'i cysylltir yn anad dim â dau o abadau llengar Abaty Glynegwestl, sef Siôn ap Rhisiart a Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth. Roedd ei gyd-fardd Guto'r Glyn yn ymwelydd cyson â Glynegwestl hefyd, a cheir marwnad deimladwy iddo gan Gutun.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith y bardd
- Edouard Bachellery (gol.), L'Œuvre poétique de Gutun Owain, 2 gyfrol (Paris, 1950, 1957)
- Evan John Jones (gol.), Buchedd Sant Martin (Caerdydd, 1945)
[golygu] Astudiaethau
- Saunders Lewis, 'Gutun Owain', yn Meistri a'i grefft (Caerdydd, 1981)

