Ieuan Tew Ieuanc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg oedd Ieuan Tew Ieuanc neu Ieuan Tew Brydydd (tua 1540 - 1608). Bu llawer o ddrysu rhyngddo â bardd arall a elwid yn Ieuan Tew Brydydd, sef Ieuan Tew Hynaf (Ieuan Tew Brydydd Hynaf) (bl. hanner cyntaf yr 16eg ganrif).

Ychydig a wyddys am y bardd ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi. Blodeuodd yn ail hanner yr 16eg ganrif. Bu farw yn 1608, yn hen ŵr tua 70 oed. Ymddengys ei fod yn frodor o Wynedd.

Graddiodd fel disgybl disgyblaidd yn Eisteddfod Caerwys 1567, sy'n awgrymu y cafodd ei eni tua dechrau'r 1540au. Ymhlith ei gerddi ceir cerdd moliant i Siôrs Owain (George Owen), Henllys, Sir Benfro, awdur y gyfrol The Description of Penbrockshire (sic).

Canwyd marwnad iddo gan ei gyfaill Siôn Phylip, y bardd o Ardudwy a fu hefyd yn un o raddedigion ail Eisteddfod Caerwys.

Llyfryddiaeth [golygu]

Cyhoeddwyd marwnad Ieuan Tew i George Owen yn y gyfrol

Ffynhonnell [golygu]

  • Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, nodyn ar dud. 318.