Huw Ceiriog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd o'r hen Sir Ddinbych oedd Huw Ceiriog, sef Hywel Ceiriog (bl. tua 1560 - 1600).

Ychydig a wyddys amdano. Ymddengys ei fod yn frodor o Lyn Ceiriog yn yr hen Sir Ddinbych (ond rhan o sir Wrecsam heddiw). Graddiodd yn Eisteddfod Caerwys 1567, yr ail o Eisteddfodau Caerwys. Roedd y beirdd Edward Maelor a Wiliam Llŷn yn ei adnabod.

Mae 15 o gerddi Huw Ceiriog ar glawr, yn gywyddau ac englynion i bobl leol a gwrthrychau fel merched, yr haf ac Eisteddfod Caerwys.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Huw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor (Caerdydd, 1990)

Dolenni allanol [golygu]