Llansanffraid Glynceiriog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Glyn Ceiriog)
Neidio i: llywio, chwilio
Canol pentref Glyn Ceiriog.

Hen bentref chwareli llechi yw Glyn Ceiriog (Llansanffraid Glyn Ceiriog yn llawn), yn Mwrdeistref Sirol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r Waun a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda rheilffordd y Great Western Railway o Gaer i Amwythig.

Daearyddiaeth a gweinyddiaeth[golygu]

Golygfa ar bentref Glyn Ceiriog.

Hanes gweinyddol[golygu]

Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel plwyf ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol Llansanffraid Glyn Ceiriog. O ganol y 16eg ganrif hyd 1974, llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol Sir Ddinbych, a rannwyd yn sawl ardal wledig. Rhwng 1895 a 1935, roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig Llansilin yn 1935 i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn ran o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o 1935 hyd 1974.

Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyndŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn ran o awdurdod unedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y mae hyd heddiw.

Cynrychiolaeth wleidyddol[golygu]

Gweinyddir Glyn Ceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae Glyn Ceiriog yn ran o ward Dyffryn Ceiriog, ac mae ganddi gynghorwr annibynol.

O 1999, cynrychiolwyd Glyn Ceiriog yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Karen Sinclair, Aelod Cynulliad y Blaid Lafur ar gyfer De Clwyd.

Ers 1997, cynrychiolir Glyn Ceiriog yn Senedd y Deyrnas Unedig gan Martyn Jones, Aelod Seneddol Llafur De Clwyd.

Daearyddiaeth/daeareg[golygu]

Lleolir Glyn Ceiriog yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn a grewyd gan afon Ceiriog. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn stratau Ordoficiaidd a Silwriaidd. Mae'r pridd yn fân ac yn fawnog.

Pobl o Lyn Ceiriog[golygu]

Mae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lyn Ceiriog yn y gorffenol, yn cynnwys:

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansanffraid Glynceiriog (pob oed) (1,040)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansanffraid Glynceiriog) (335)
  
33.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansanffraid Glynceiriog) (611)
  
58.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llansanffraid Glynceiriog) (173)
  
37.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu]